Ehangu cyfranogiad ac allgymorth
Credwn yn gryf na ddylai rhwystrau ym myd addysg uwch fodoli ac yn yr Ysgol Cerddoriaeth rydyn ni’n falch o gynnal neu gymryd rhan mewn nifer o gynlluniau sy'n ceisio agor drysau i'r rheini na fydden nhw fel arall yn ystyried bod astudio yn y brifysgol yn opsiwn iddyn nhw.
Rydyn ni wedi ymrwymo i weledigaeth strategol y Brifysgol o ran genhadaeth ddinesig.
Mae Strategaeth Ehangu Cyfranogiad 2020-25 y Brifysgol yn amlinellu'r ymrwymiad sydd gennym i bobl ifanc a sut rydyn ni’n bwriadu ymgysylltu â nhw yng Nghaerdydd i sicrhau eu bod yn cael eu grymuso a’u bod yn cael gwybod am ddatblygiadau yn y Brifysgol.
Rydyn ni’n cynnig ysgolion haf ar y campws ac yn ymweld â nifer o ysgolion a cholegau ledled y DU i amlinellu diben astudio yn y brifysgol a pha gymorth arbenigol y gellir ei gynnig i'r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes cerddoriaeth.
Yn yr Ysgol Cerddoriaeth, rydyn ni’n mynd â hyn gam ymhellach. Rydyn ni’n gwahodd ysgolion o bob cwr o'r DU i'r ysgol ac yn eu trochi yn y gwaith o greu cerddoriaeth. Boed yn weithdai cyfansoddi neu’n ymarferion yr ensemble cyfan, rydyn ni’n annog myfyrwyr i gymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiol yr ysgol i gael blas ar astudio cerddoriaeth ym myd addysg uwch.
Yn ddiweddar, gwnaethon ni helpu i ddylunio Rhaglen 'Camu ‘Mlaen' Prifysgol Caerdydd, yn enwedig uned y Celfyddydau Mynegiannol sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cydweithio, amrywiaeth a photensial astudio rhyngddisgyblaethol yn y celfyddydau.
Ymhellach i ffwrdd, yn achos rhaglenni’r cymunedau addysgol lleol, gwnaeth staff a myfyrwyr gyflwyniad ôl-16 ac ôl-18 i ysgolion gyda chymorth Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerffili, a hynny i gynulleidfa ar-lein drwy wahoddiad o fwy na 100 o bobl.