Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein croeso cynnes a thwymgalon ac rydyn ni eisiau sicrhau bod pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn llwyddo hyd orau eu gallu gyda ni.
Ein nod yw sicrhau diwylliant cynhwysol sy’n cefnogi ac yn sicrhau cyfle cyfartal i bobl o bob oed, ethnigrwydd, anabledd, strwythur teuluol, rhywedd, cenedl, cyfeiriadedd rhywiol, hil, crefydd, cred a chefndir economaidd-gymdeithasol arall.
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CACh)
Mae'r pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (CACh) yn cynnwys staff a myfyrwyr, ac mae cynrychiolwyr o staff academaidd (gyrfa gynnar ac uwch-academwyr), staff proffesiynol a myfyrwyr o bob rhaglen gradd yn aelodau ohono. Mae’r aelodau, o dramor a'r DU, hefyd yn adlewyrchu’r amrywiaeth yn yr ysgol o ran cenedligrwydd a'n llwyddiant wrth integreiddio ystod eang o gefndiroedd.
Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am oruchwylio'r broses o gydlynu, rheoli ac adolygu'r mesurau sydd eu hangen i gefnogi polisïau a gweithdrefnau ynghylch CACh, yn unol â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol. Mae'n ymdrechu i hyrwyddo a gwella CACh ar draws pob maes o weithgarwch yr ysgol, gan gynnwys addysgu, dysgu, asesu, ymchwil, recriwtio a gweinyddu.
Daw gwaith y pwyllgor yn dilyn argymhellion y Gweithgor Cydraddoldeb Hiliol a sefydlwyd yn 2020.
Ymhlith cynlluniau, camau gweithredu a digwyddiadau y pwyllgor CACh y mae:
- lansio'r cwricwlwm diwygiedig ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Ceir ynddo fwy byth o amrywiaeth o ran rhywedd a dad-drefedigaethu modiwlau hanes a theori
- amrywiaeth repertoire a themâu cyngherddau a berfformir gan fyfyrwyr a cherddorion proffesiynol (e.e., dathlu Mis Hanes Pobl Ddu, Fela Kuti, Sulpitia Cesis, José Garcia a Diwrnod Rhyngwladol y Menywod)
- amrywiaeth ensemblau’r myfyrwyr
- trafodaeth y myfyrwyr gyda'r fiolinydd Affro-Americanaidd, Randall Goosby, yn Neuadd Dewi Sant, ar ôl ei gyngerdd ar gyfer cyfansoddwyr du
- Darllediad y BBC o 'Bhekizizwe', monodrama operatig gan y cyfansoddwr Dr Rob Fokkens a'r libretydd Mikhululi Mabija; taith ledled Cymru gydag Opera'r Ddraig sy’n rhan o gynllun Arloesi i Bawb y Brifysgol
- Codi ymwybyddiaeth ynghylch pobl fyddar: Gweithdy Arwyddo a Cherddoriaeth, 'Cerddoriaeth i'r Llygaid' sy’n rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol ac a ariennir gan gronfa sbarduno Meithrin Ymchwil a Chymunedau Ysgoloriaeth y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (AHSS)
- amrywiaeth y diwylliant cerddorol mewn gweithdai cyfansoddi
- amrywiaeth y pynciau ymchwil yng nghyfres darlithoedd cyhoeddus John Bird
- Sesiwn hyfforddi CACh ar gyfer yr holl staff
- Hyrwyddo CACh yn ystod diwrnodau agored a diwrnodau UCAS, gan gyfleu gwaith ac ymrwymiad yr ysgol i CACh i ddarpar fyfyrwyr a threfnu ystod o weithdai
Ysgoloriaeth Paul Robeson
Ysgoloriaeth sy'n gosod myfyrwyr wrth galon addysg gerddoriaeth ysbrydol drwy CACh.
Gan elwa ar berthynas gref yr ysgol ag Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru, mae'r ysgoloriaeth yn ychwanegu at esiampl Robeson – canwr, actor, ac ymgyrchydd hawliau sifil Affro-Americanaidd a gefnogodd lowyr De Cymru yn ystod y blynyddoedd o galedi ar ôl y rhyfel - i hyrwyddo potensial gan newid bywydau drwy eu helpu i astudio a gweithio ym maes cerddoriaeth. Ei nod yw datblygu gwaddol Robeson, yn unol â gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth, drwy ariannu myfyrwyr i roi sgyrsiau, gweithdai, perfformiadau a chreu cyfansoddiadau.
Wedyn bydd israddedigion y flwyddyn gyntaf sy’n llwyddiannus yn eu cais yn dilyn ysgoloriaeth am flwyddyn ac un semester yn sgil cyllid Ymddiriedolaeth Paul Robeson Cymru.
Nodau'r ysgoloriaeth:
- Hyrwyddo Paul Robeson a gwaith yr Ymddiriedolaeth yn yr Ysgol Cerddoriaeth a'r Brifysgol.
- Cynnal a datblygu ymrwymiad yr Ysgol i ddilyn amcanion CACh yn ei chwricwlwm a'i digwyddiadau cyhoeddus (e.e., sgyrsiau, gweithdai, a chyngherddau).
- Creu craidd o fyfyrwyr sy’n llysgenhadon ac sy'n gallu ymgymryd â gwaith yn yr ysgol, mewn cymunedau lleol a phrifysgolion sy’n bartneriaid dramor.
Cymuned LHDTC+
Rydyn ni’n hynod falch o'n gwaith ar y gymuned LHDTC+. Yn 2022, roedd Prifysgol Caerdydd yn y 7fed safle o blith 100 ym Mynegai Cydraddoldeb Stonewall yn ogystal â Chyflogwr Traws Gorau Stonewall.
Mae Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i wella profiad ein staff a myfyrwyr LHDTC+, ac rydyn ni wedi cael ein cydnabod dro ar ôl tro am ein hymdrechion. Mae Cymdeithas LHDTC+ y myfyrwyr, Cymdeithas LHDTC+ Prifysgol Caerdydd (Balchder Prifysgol Caerdydd) a rhwydwaith staff ac ôl-raddedigion hynod weithgar o’r enw ‘Enfys’.
Hygyrchedd
Rydyn ni’n gweithio gyda thîm Anabledd a Dyslecsia’r Brifysgol i roi addasiadau rhesymol yn eu lle ar gyfer myfyrwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw hwyrach o ran eu dysgu. Rydym ni’n rhoi cymorth i fyfyrwyr sydd ag ystod eang o anghenion – boed anableddau dysgu ac anableddau y mae angen cymorth gwybyddol ychwanegol ar eu cyfer, anableddau corfforol neu achosion o golli’r clyw neu’r golwg.
Gall pobl mewn cadeiriau olwyn ddefnyddio ein lleoedd addysgu a'n cyfleusterau ymarfer gan nad oes grisiau yno, a cheir ramp sy’n ymestyn hyd lwyfan y Neuadd Gyngerdd a chadair achub mewn argyfwng ar ail lawr prif adeilad yr ysgol.
Mae gan ein leoedd addysgu mwy eu maint a'n Neuadd Gyngerdd systemau dolen anwytho clyw hefyd.