Amdanom ni

Rydyn ni’n credu mewn egwyddorion partneriaeth a chynhwysiant, ble mae eich llais yn bwysig, ble mae eich gwaith yn cael ei werthfawrogi, a’ch bod yn cael eich trin ag urddas a pharch.
Rydym ni’n cynnig hyfforddiant trylwyr mewn cerddoriaeth mewn amgylchedd bywiog a dychmygus ym maes y celfyddydau breiniol.
Mae ein myfyrwyr yn gweithio ac yn astudio mewn cymuned ymchwil, gan ddysgu oddi wrth staff academaidd sydd ag arbenigedd o ran cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoleg, a cherddoriaeth boblogaidd.

Rydym ni wedi’n lleoli mewn prif ddinas sydd â diwylliant artistig cyfoethog sy’n cyfuno traddodiadau cerddorol cryf Cymru gyda thueddiadau cyfoes. Caerdydd yw cartref Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, canolfan gynhyrchu fawr y BBC, a nifer o gyrff diwylliannol eraill. Rydym ni’n elwa ar gysylltiadau cydweithredol gyda nifer o’r cyrff hyn.

Caiff ein myfyrwyr gyfleoedd gwerth chweil i astudio cerddoriaeth gydag amrywiaeth eang o weithgareddau cerddorol hygyrch a fforddiadwy.
Gydag o ddeutu 275 o fyfyrwyr ar gyfartaledd (israddedig ac ôl-raddedig) rydym ni’n grŵp colegol o gerddorion ac ysgolheigion. Mae’r mwyafrif o fyfyrwyr yn byw o fewn pellter cerdded i’r Adeilad Cerddoriaeth ac mae ein cyfleusterau’n cynnig ffocws ar gyfer astudio a pherfformio.
Mae Ysgol Cerddoriaeth Caerdydd yn ganolfan fywiog ac uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i wneud gwaith ymchwil, cyfansoddi a pherfformio.