Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaethau diwylliannol a gweledol trawswladol

Instant portraits of peope
Rydym ni'n archwilio prosesau cyfathrebu diwylliannol ar draws ffiniau daearyddol, ieithyddol a chymdeithasol.

Daw'r thema ag ymchwilwyr at ei gilydd sy'n rhannu diddordeb yn y ffordd mae diwylliannau'n cyfathrebu ar draws ffiniau daearyddol, ieithyddol a chymdeithasol.

Yn benodol rydym ni'n edrych ar sut caiff cynhyrchion diwylliannol, fel cyfieithiadau, ffilmiau a chelf weledol eu cynhyrchu, eu cylchredeg a'u derbyn.

Mae'r thema ymchwil hon yn rhyngddisgyblaethol ei natur ac yn ceisio hybu, hyrwyddo a lledaenu ymchwil ansawdd uchel yn y croestoriad rhwng amrywiol feysydd, yn cynnwys astudiaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, astudiaethau diwylliannol, theori gritigol, gwerthuso ideoleg ac astudiaethau addasu a pherfformio.

Ein nod yw

  • Ymchwilio'r cysylltiadau rhwng mynegiadau trawsgenedlaethol gwahanol o dreftadaeth ddiwylliannol, gan dalu sylw penodol i gynhyrchu, cyflwyno/cynrychioli a derbyn gwahanol gyfryngau.
  • Archwilio prosesau cyfathrebu diwylliannol ar draws ffiniau daearyddol, ieithyddol a chymdeithasol, a thrafod syniadau ynghylch dilysrwydd ffiniau yn yr ystyr ehangaf.
  • Cefnogi dialog rhwng meysydd cyfieithu, brandio cenedl, amlieithrwydd, ac amrywiaeth diwylliannol, ac ymchwilio iaith fel elfen o genedligrwydd a symbol o hunaniaeth.
  • Datblygu meddwl yn feirniadol ar amrywiol faterion cyfoes arwyddocaol, yn cynnwys cyfalafiaeth fel ffurf gymdeithasol a'i ffurfweddau ideolegol, syniadau dadleuol am berthyn a symudedd pobl a diwylliannau.

Ein gwaith

Mae staff a myfyrwyr sy'n gweithio ar y thema hon yn rhannu diddordeb mewn safbwyntiau trawsgenedlaethol a thrawsddiwylliannol, sut caiff prosesau cyfathrebu byd-eang a lleol eu mynegi a'u derbyn, a'r croestoriad rhwng iaith, diwylliant, hil, crefydd ac ideoleg.

Mae'r thema ymchwil hon yn edrych ar bob math o fynegiant diwylliannol, gan gwmpasu deunyddiau wedi'u cyfieithu, ffurfiau llenyddol, diwylliant clywedol, cynrychioliad mewn amgueddfeydd a llwyfannu diwylliannau.

Mae'r thema'n cofleidio pynciau ymchwil ieithoedd modern yn ogystal â'r rheini sy'n uniaethu â chyd-destunau cenedlaethol, ieithyddol a diwylliannol eraill - er enghraifft mudwyr, lleiafrifoedd ethnig ac ieithyddol, pobl ag anableddau, lleiafrifoedd crefyddol a'r rheini a gaiff eu hymylu gan hunaniaeth rywiol neu ryweddol.

Effaith ein hymchwil

Rydym ni'n dymuno datblygu effaith ein hymchwil drwy gydweithio gyda'r sector creadigol a diwylliannol, ysgolion a chyrff cymdeithas sifil.

Ymchwil PhD

Os yw eich ymchwil yn cyd-fynd â disgrifiad a nodau'r thema hon, a'ch bod yn yn dymuno cynnal eich astudiaethau MPhil neu PhD gyda ni, edrychwch ar broffiliau ein haelodau arbenigol o staff a chysylltwch â'n gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig.

Gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig

Ein goruchwylwyr PhD

Picture of Tilmann Altenberg

Dr Tilmann Altenberg

Darllenydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Telephone
+44 29208 74584
Email
AltenbergTG@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Tilmann Altenberg yn cynnig goruchwylio ym meysydd hanes diwylliannol a llenyddol yn cynnwys y byd Sbaeneg ei iaith, a threftadaeth rhyfel a chwyldro.

Picture of Heiko Feldner

Heiko Feldner

Darllenydd Emeritws

Telephone
+44 29208 75598
Email
FeldnerHM@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Heiko Feldner yn croesawu ymholiadau'n ymwneud â hanes a chysyniad cyfalafiaeth, gwerthusiad o ideolegau cyfoes, yr ysgol barnu-gwerth Almaenig (Wertkritik) a pherthnasedd cyfoes Marx, Foucault a Žižek.

Gall Dr Dorota Goluch oruchwylio ymchwil ar theori cyfieithu a hanes, yn enwedig ar bynciau sy'n ymwneud â chyfieithu, ôl-drefedigaeth ac actifiaeth; Cyfieithu a derbyniad llenyddol Pwyleg; cyfieithu a'r Holocost; cyfieithu mewn amgueddfeydd coffa.

Picture of Claire Gorrara

Yr Athro Claire Gorrara

Deon Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Athro Astudiaethau Ffrangeg

Telephone
+44 29208 74955
Email
Gorrara@caerdydd.ac.uk

Gall yr Athro Claire Gorrara oruchwylio mewn meysydd yn ymwneud â hanes ac atgofion yr Ail Ryfel Byd yn Ffrainc; diwylliant poblogaidd a gwleidyddiaeth y cof; nofelau graffig ac ysgrifennu am hanes.

Mae'r Athro Kate Griffiths yn goruchwylio ar addasu a chyfieithu o unrhyw gyfnod o hanes mewn cyd-destunau Ffrengig a byd-eang. Mae'n hapus i weithio ar wahanol gyfryngau (radio, ffilm, teledu, theatr, llenyddiaeth) a gwahanol genhedloedd.

Picture of Charlotte Hammond

Dr Charlotte Hammond

Darlithydd mewn Astudiaethau Ffrangeg

Telephone
+44 29225 10103
Email
HammondC6@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Charlotte Hammond yn canolbwyntio ar hanes a gwaddol caethwasiaeth drefedigaethol yn y Caribî; perfformiad rhywedd, tecstilau a gwisg fel gwrthsafiad gwrth-drefedigaethol; mathau modern o gaethwasiaeth mewn cadwyni cyflenwi dillad.

Picture of Alastair Hemmens

Dr Alastair Hemmens

Senior Lecturer in French

Telephone
+44 29225 10105
Email
HemmensA@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Alastair Hemmens yn croesawu ceisiadau am oruchwylio ar bob maes yn hanes diwylliannol a deallusol modern Ffrainc. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio'n benodol ar theori ac ymarfer Marcsaidd, gwrth-gyfalafiaeth a'r avant-garde yn Ffrainc yn yr ugeinfed ganrif.

No picture for Nicholas Hodgin

Dr Nicholas Hodgin

Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Almaenig

Telephone
+44 29225 10108
Email
HodginN@caerdydd.ac.uk

Hanesydd diwylliannol yw Dr Nick Hodgin gyda diddordeb penodol yn yr ugeinfed ganrif ac astudiaethau diwylliannol cyfoes, yn ogystal ag astudiaethau ffilm, astudiaethau'r cof ac astudiaethau trawma. Ei ddiddordebau ymchwil penodol yw diwylliant yr Almaen, yn enwedig diwylliant gweledol.

Picture of Christopher Hood

Dr Christopher Hood

Darllenydd mewn Astudiaethau Japaneaidd

Telephone
+44 29208 74515
Email
HoodCP@caerdydd.ac.uk

Mae Dr Christopher Hood yn cynnig goruchwylio ar amrywiaeth eang o bynciau'n ymwneud â Japan, yn cynnwys agweddau ar goffau a thwristiaeth dywyll.

Picture of Cristina Marinetti

Dr Cristina Marinetti

Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu

Telephone
+44 29208 74254
Email
MarinettiC@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Cristina Marinetti oruchwylio ymchwil ar theori cyfieithu, yn enwedig ar ymagweddau diwylliannol a chymdeithasegol at gyfieithu, hanes theatr a chyfieithu theatr a'r portread o amlieithrwydd yn yr Eidal gyfoes.

No picture for Ryan Prout

Dr Ryan Prout

Darllenydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Telephone
+44 29208 76258
Email
ProutR@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Ryan Prout oruchwylio pynciau sy'n ymwneud â diwylliannau gweledol Sbaen ac America Ladin, Llenyddiaeth, ffilm a theledu Sbaeneg a Latin Americanaidd, astudiaethau LHDT, astudiaethau anabledd, astudiaethau cyfieithu, diwylliannau anniriaethol, a hanesion diwylliannol a chymdeithasol gwyliau.

Picture of Fabio Vighi

Yr Athro Fabio Vighi

Athro Eidaleg a Theori Feirniadol

Telephone
+44 29208 75605
Email
VighiF@caerdydd.ac.uk

Gall yr Athro Fabio Vighi oruchwylio ymchwil ar theori gritigol, athroniaeth gyfandirol, gwerthuso ideoleg, theori seicoddadansoddol, diwylliant cyfoes yr Eidal a sinema Ewropeaidd a'r Byd.

Picture of Joey Whitfield

Dr Joey Whitfield

Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd

Telephone
+44 29225 10112
Email
WhitfieldJ1@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Joey Whitfield oruchwylio pynciau mewn Astudiaethau Llenyddol, Ffilm a Diwylliannol America Ladin, yn enwedig pynciau'n gysylltiedig â throseddu, carchardai a chyfiawnder.

Picture of Elizabeth Wren-Owens

Dr Elizabeth Wren-Owens

Deon Addysg Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, Darllenydd mewn Astudiaethau Eidaleg a Chyfieithu

Telephone
+44 29208 76438
Email
Wren-OwensEA@caerdydd.ac.uk

Gall Dr Liz Wren-Owens oruchwylio ar bynciau'n ymwneud â chyfieithu a llenyddiaeth y byd, llenyddiaeth Eidaleg gyfoes, addasu, mudo a diaspora, ac astudiaethau trawsgenedlaethol.

Cysylltu â ni

Rydym ni'n trefnu seminarau ymchwil, grŵp darllen misol, digwyddiad posteri ymchwil blynyddol a digwyddiadau diwylliant gweledol fel dangos ffilmiau. Rydym yn agor ein seminarau ymchwil i'r cyhoedd, yn recordio'r digwyddiadau ac yn cyhoeddi'r recordiadau ar ein gwefan.

Os hoffech chi siarad yn un o'n digwyddiadau neu ofyn am ein hymchwil cysylltwch â Dr Elaine Chung.

Picture of Elaine Wing Tung Chung

Dr Elaine Wing Tung Chung

Darlithydd mewn Astudiaethau Tsieinëeg

Telephone
+44 29208 79987
Email
ChungE@caerdydd.ac.uk