Ewch i’r prif gynnwys

Y gymuned ymchwil ôl-raddedig

Members of the Modern Languages Postgraduate Community.

Mae gennyn ni gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog a chefnogol.

Mae ein myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol yn yr adran ac yn cael eu goruchwylio gan arbenigwyr yn eu disgyblaethau.

Rhan o'n cymuned

Mae myfyrwyr PhD yn ymdoddi’n llawn i’n cymuned ymchwil. Mae seminarau a digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan ein grwpiau ymchwil yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ryngweithio ag amrywiaeth eang o staff academaidd ar bynciau sy'n berthnasol i'w gwaith ymchwil, gan ehangu profiad y myfyrwyr.

Hyfforddi a datblygu

Rydyn ni’n cynnig rhaglenni hyfforddi cynhwysfawr ar gyfer myfyrwyr PhD drwy'r Academi Ddoethurol, sy'n trefnu gweithdai sgiliau, digwyddiadau ymsefydlu, cynadleddau, seminarau a darlithoedd. Mae costau teithio, cymryd rhan mewn cynadleddau, a gwneud gwaith maes wedi'u neilltuo, gyda myfyrwyr yn elwa o fynd i raglenni hyfforddiant doethurol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) ynghyd â hyfforddiant sydd wedi'i deilwra yng Nghymru.

Mae myfyrwyr PhD yn rhan ganolog o drefnu cynadleddau ymchwil ôl-raddedig blynyddol ym maes y Dyniaethau, a gydlynir gan yr Academi Ddoethurol. Mae gan fyfyrwyr fynediad at gymorth i ddatblygu eu digwyddiadau a'u cynadleddau eu hunain: mae nifer dda o fyfyrwyr Astudiaethau Cyfieithu wedi arwain at lansio Cymdeithas Ôl-raddedig Astudiaethau Cyfieithu.

Mae myfyrwyr wedi creu Grŵp Darllen Rhwng Ysgolion, Academia degli Incogniti; maen nhw wedi cyfrannu at gynhadledd 'Amlddiwylliannaeth: damcaniaethau ac ymarfer' Neuadd Gregynog a chynhadledd 'Ail-greu Amlddiwylliannaeth' Prifysgol Caerdydd.

Goruchwyliaeth a chymorth

Mae ein myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan dîm o ddau aelod o staff academaidd o leiaf ac mae cyfarfodydd rheolaidd yn monitro cynnydd ac yn datblygu amserlen ar gyfer cwblhau’r PhD. Mae'r myfyrwyr yn cyflwyno eu hymchwil yn y digwyddiadau Cwblhau Ymchwil sy’n cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, ac sy’n cynnig adborth unigol manwl gan banel o staff academaidd.

Cyllid

Mae ein myfyrwyr yn llwyddo i gael cyllid ychwanegol drwy ysgoloriaethau gan AHRC, ESRC a chyrff cyllido allanol cystadleuol eraill. Mae gwybodaeth am gyfleoedd ariannu ar gael yma.

Darganfyddwch ragor am y cyfleoedd PhD a MPhil amser llawn a rhan-amser yn yr ysgol.

Cysylltu

Ar gyfer ymholiadau, sgyrsiau anffurfiol, neu i wneud cais ar gyfer ymchwil ôl-raddedig.

Gweinyddwr ymchwil ôl-raddedig