Model mentora ar gyfer dysgu ieithoedd a’r tu hwnt
Mae ymchwil o dan adain Prifysgol Caerdydd wedi dylanwadu ar bolisïau ac arferion ac annog disgyblion Cymru i ddysgu ieithoedd.

Troi'r llanw mewn cyd-destun ymestynnol
Mae nifer y disgyblion sy'n astudio iaith fodern ar gyfer TGAU yng Nghymru wedi gostwng o 64% ers 2002 ac, yn Lloegr, o 48% dros gyfnod tebyg.
Mae ymchwil gydweithredol o dan adain yr Athro Claire Gorrara yn helpu i ddysgu pam mae disgyblion yn gyndyn o ddysgu ieithoedd a sut mae’u hysgogi trwy ddarganfyddiadau ieithyddol.
Prosiect Mentora Ieithoedd Tramor Modern
Yr Athro Gorrara sy’n arwain y prosiect hwn ar ran pedair prifysgol yng Nghymru sy’n anfon israddedigion ac ôl-raddedigion i ysgolion uwchradd ar gyfer mentora disgyblion cyn dewis y pynciau y byddan nhw’n eu hastudio ar gyfer TGAU. Ymgysylltodd dros 10,000 o ddisgyblion â'r prosiect dros y pum mlynedd cyntaf.
Cynhaliodd yr Athro Gorrara ymchwil ynghyd â’r prosiect hefyd, gan ddangos y gall amryw fathau o fentora ddylanwadu ar agweddau at ddysgu ieithoedd yn yr ysgolion ac ysgogi disgyblion i astudio iaith fodern ar gyfer TGAU.
Mae myfyrwyr wedi bod yn fentoriaid iaith, gan ymgysylltu’n well â’r menteion am eu bod bron yn gyfoedion a dysgu a darganfod pethau ar y cyd. Ystyriwyd bod hynny’n allweddol i lwyddiant y prosiect.
Ffeithiau allweddol
- Yn ôl gwerthuso annibynnol, dewisodd 57% o’r rhai gafodd eu mentora mewn 27 o ysgolion yn 2015-16 a 50% o’r rhai gafodd eu mentora mewn 43 o ysgolion yn 2016-17 astudio iaith fodern ar gyfer TGAU.
- Mae hynny dros ddwbl cyfartaledd y wlad yn y blynyddoedd o dan sylw, lle ychydig dros 20% o ddisgyblion ddewisodd astudio iaith fodern ar gyfer TGAU yng Nghymru.
- Ehangodd y prosiect yn sylweddol i gynnwys 87 o ysgolion yn 2018-19 ac, ar gyfartaledd, dewisodd 45% o’r menteion astudio iaith fodern ar gyfer TGAU. Yn 2019-20, bu'r prosiect yn ymwneud â 95 o ysgolion, tua hanner ysgolion uwchradd Cymru.
Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig?
Mae’r mentora a’r ymchwil wedi ateb anawsterau ieithoedd modern megis diffyg diddordeb ymhlith disgyblion, tyb ei bod yn anodd dysgu iaith a’r farn nad yw pwnc o’r fath o fantais yn y cwrícwlwm.
Dangosodd yr ymchwil fod modd priodoli’r cynnydd yn nifer y rhai sy’n dewis astudio ieithoedd modern i agwedd greadigol y prosiect sy’n ennyn chwilfrydedd a diddordeb disgyblion. Roedd menteion iau yn llai tebygol o ystyried eu bod yn dysgu iaith i ddiben penodol, ac yn fwy tebygol o weld ieithoedd yn rhan o fedrau diwylliannol gwerthfawr gydol oes.
Dywedodd yr ysgolion a gymerodd ran fod nifer y disgyblion a ddewisodd astudio iaith fodern ar gyfer TGAU wedi dyblu ar gyfartaledd o ganlyniad i’r mentora.
Dyma’r tîm
Cysylltiadau pwysig
Cyhoeddiadau dethol
- Gorrara, C. et al. 2020. Multilingual perspectives: preparing for language learning in the new curriculum for Wales. Curriculum Journal 31 (2), pp.244-257. (10.1002/curj.11)
- Gorrara, C. , Jenkins, L. and Mosley, N. 2019. Modern languages and mentoring: Lessons from digital learning in Wales.
- Blake, S. and Gorrara, C. 2019. Evaluating student mentoring as an intervention to support modern foreign language learning in secondary schools in Wales. Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education 21 (1), pp.24-45. (10.16922/wje.21.1.3)
- Gorrara, C. 2018. Speaking from Wales: building a modern languages community in an era of Brexit. In: Kelly, M. ed. Languages after Brexit How the UK Speaks to the World. Cham: Palgrave Macmillan. , pp.149-158. (10.1007/978-3-319-65169-9_13)