Ymchwil yn yr Ysgol Ieithoedd Modern
Mae'r Ysgol Ieithoedd Modern yn gartref i grŵp o ymchwilwyr y mae eu diddordebau'n rhychwantu deg o feysydd iaith gwahanol gyda phwyslais cryf ar ddimensiynau trawswladol materion diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes.
Mae gwaith ein hymchwilwyr yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, yn cynnwys astudiaethau llenyddol a gweledol, cyfieithu, amlieithrwydd, theori gritigol, astudiaethau'r cof, hanes, mudiadau cymdeithasol a gwleidyddiaeth a llunio polisïau.
Themâu ein hymchwil
Mae ein gwaith wedi'i drefnu o gylch tri grŵp thematig allweddol, sydd oll yn cyflwyno digwyddiadau ymchwil rheolaidd.
Mae recordiadau o'n digwyddiadau thema ymchwil blaenorol o fis Hydref 2020 ymlaen ar gael i'w gwylio ar sianel YouTube yr Ysgol. Gwelwch ein rhestr chwarae digwyddiadau thema ymchwil.
Ymchwil ryngddisgyblaethol
Mae llawer o'n hymchwil yn rhyngddisgyblaethol gyda nifer o'n prosiectau'n denu cefnogaeth gan gyrff cyllido sy'n cynnwys Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.
Mae gennym ymrwymiad cryf i effaith ein hymchwil: mae hyn yn cynnwys gwaith gydag ysgolion i hyrwyddo dysgu iaith, darparu cyngor i gyrff cymdeithas sifil, partneriaethau gyda sefydliadau diwylliannol, a chydweithio gyda chyrff cymdeithasol a diwylliannol ar lawr gwlad, yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Ni hefyd sy'n cynnal y cyfnodolyn mynediad agored ar-lein New Readings, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Caerdydd.
Ymchwil Ddoethurol ac ôl-ddoethurol
Rydym yn cynnig amgylchedd bywiog i ymchwilwyr ôl-raddedig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal â chroesawu ymchwilwyr allanol drwy ein Rhaglen Ysgolheigion Gwadd.
Rydym yn croesawu ymchwilwyr ôl-ddoethurol a gefnogir gan amrywiol gyllidwyr, yn cynnwys Ymddiriedolaeth Leverhulme, cynllun Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie yr Undeb Ewropeaidd a'r Academi Brydeinig.
Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yw’r system a ddefnyddir i asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.