Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd ar ôl y brifysgol – i ble y gall gradd mewn ieithoedd modern fynd â chi?

Cyntedd llawn o bobl yn sefyll ac yn sgwrsio. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn wynebu i ffwrdd o'r camera.

P'un a ydych chi'n astudio gradd mewn ieithoedd modern ar hyn o bryd neu'n ystyried dechrau un yn y dyfodol, efallai eich bod eisoes wedi rhoi ystyriaeth i'ch gyrfa yn y dyfodol ac wedi cwestiynu pa ddiwydiant sydd orau â gradd o’r fath?

Yn ddiweddar, mewn digwyddiad cwrdd a chyfarch cyflogwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, gwnaeth cyflogwyr o wahanol sefydliadau siarad â myfyrwyr ynghylch y manteision sydd ynghlwm ag astudio ieithoedd modern a'r mathau o yrfaoedd sydd ar gael iddyn nhw ar ôl graddio.

Addysgwyr Cymru

Un o'r trefnwyr a fu’n bresennol yn y digwyddiad cwrdd a chyfarch hwnnw oedd Addysgwyr Cymru, sef prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector addysg. Bydd gradd mewn ieithoedd modern o fudd mawr ichi os ydych chi’n ystyried gyrfa ym myd addysg. Gwyliwch y fideo hwn i glywed gan Lydia o Addysgwyr Cymru yn sôn am y gwahanol rolau sydd ar gael i raddedigion ym maes addysg a'r rhinweddau y mae galw mawr amdanyn nhw ymhlith darpar addysgwyr.

Llu Awyr Brenhinol

Fel arfer, addysgu a chyfieithu yw’r gyrfaoedd a gysylltir yn draddodiadol ag astudio gradd mewn ieithoedd modern, ond nid y rhain yw’r unig opsiynau sydd ar gael i chi. Mae gan y Llu Awyr Brenhinol (RAF) gyfleoedd gwych i’w cynnig i raddedigion ym maes ieithoedd. Yn y clip, mae David Prowse, sy'n Swyddog Ymgysylltu Gyrfaol yn yr RAF, yn egluro mwy am y cyfleoedd hynny.

Conexus

Gyrfa arall y gallai gradd mewn ieithoedd modern fod yn addas ar ei chyfer yw’r sector recriwtio. Asiantaeth recriwtio wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yw Conexus, sy'n gweithio ar hyd a lled Ewrop a ledled y byd. Mae ganddyn nhw nifer o rolau gwahanol, lle cynigir cyfleoedd i ymgeiswyr ddefnyddio eu sgiliau iaith. Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Conexus yw James Anscomb.

Dyma rai o'r gyrfaoedd y gall gradd mewn ieithoedd modern fod yn fuddiol ar eu cyfer. Ymhlith y meysydd eraill y mae teithio a thwristiaeth, cyllid, cyhoeddi, peirianneg, technoleg, y gwasanaeth sifil, a chwaraeon, yn y DU a thramor fel ei gilydd. Beth bynnag yw eich dyheadau yn y dyfodol, gall gradd mewn ieithoedd modern neu gyfieithu eich helpu i'w gwireddu, a bydd staff yn yr Ysgol Ieithoedd Modern wrth law i gynnig cymorth ac arweiniad ichi bob cam o'r ffordd.