Symposiwm: Menywod Tramgwyddus yn Niwylliannau Sgrîn Dwyrain Asia
Gwybodaeth allweddol
Dyddiad | 23 - 24 Mai 2024 |
---|---|
Lleoliad | Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, 66a Plas y Parc, Caerdydd CF10 3AS |
Fformat | Wyneb yn wyneb |
Prif siaradwyr |
Dr Irene González-López (Birkbeck) Dr Eva Cheuk-yin Li (Prifysgol Lancaster) Dr Colette Balmain (Prifysgol Kingston) |
Sgrinio | Deciphering Japan (2020) |
Cyfranogwyr gwadd | Georgie Yukiko Donovan (gwneuthurwr ffilmiau) Haruka Kuroda (actores, arlunydd, cyfarwyddwr ymladd a gweithiwr proffesiynol agosatrwydd) Dr Griseldis Kirsch (SOAS) |
Nod y digwyddiad hwn dros ddeuddydd yw ehangu ein gwybodaeth am dramgwyddo gan fenywod yn niwylliannau sgrîn Dwyrain Asia (a’r diaspora). Bydd yn cynnwys sgyrsiau a chyflwyniadau gan fwy na 30 o ysgolheigion, yn ogystal â sesiwn sgrinio ffilm a sesiwn bwrdd crwn yng nghwmni ymarferwyr ac arbenigwyr ym maes y cyfryngau.
Caiff y digwyddiad hwn ei gefnogi gan Academi Astudiaethau Corea, Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr, a'r Academi Brydeinig. Mae'r digwyddiad yn cael ei ariannu gan y thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol.
Cofrestru
Y ffi gofrestru ar gyfer y ddau ddiwrnod yw £60, a bydd yn cynnwys lluniaeth, cinio a derbyniad gwin. Cofrestrwch ar-lein drwy fynd i Eventsforce. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 15 Mai 2024.Cofrestrwch ar-lein drwy fynd i Eventsforce. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 15 Mai 2024.
Dim ond os caiff y symposiwm ei ganslo y gallwn roi ad-daliadau.
Sylwer y gall yr amserlen, y paneli a’r digwyddiadau eraill newid heb rybudd ymlaen llaw. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r symposiwm, e-bostiwch y trefnwyr mithanif1@caerdydd.ac.uk neu chunge@caerdydd.ac.uk.
Os hoffech gael copi o raglen y Symposiwm, anfonwch gais dros e-bost at mlang-events@caerdydd.ac.uk.