Ewch i’r prif gynnwys

Galw am geisiadau: Gweithdy PhD mewn Astudiaethau Siapaneaidd

Bydd gweithdy PhD mewn Astudiaethau Siapaneaidd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chynhadledd 50 Mlynedd BAJS 2025.

Dyddiad: 2-3 Medi 2025

Nod y gweithdy yw galluogi ymgeiswyr PhD i gyflwyno eu gwaith a chael adborth disgyblaeth-benodol ar eu prosiectau gan uwch ysgolheigion mewn astudiaethau Siapaneaidd. Bydd y gweithdy yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau, trafodaethau grŵp bach manwl, a chyfleoedd i rwydweithio.

Rydyn ni’n gwahodd ymgeiswyr PhD sy'n gweithio ar bynciau sy'n gysylltiedig â Siapan i wneud cais.

Bydd hyd at ugain o ymgeiswyr yn cael eu dewis i gymryd rhan yn y gweithdy PhD. Bydd y gweithdy’n rhad ac am ddim.  Rydyn ni’n disgwyl gallu cynnig llety am 3 noson i ymgeiswyr llwyddiannus yn neuaddau preswyl y brifysgol, yn ogystal â chyfraniad bychan at gostau teithio. I gymryd rhan yn y gweithdy, rhaid i gyfranogwyr fod yn aelodau o BAJS. Rydyn ni’n annog cyfranogwyr i ddod i gynhadledd BAJS 2025 hefyd.

I wneud cais, anfonwch y deunydd canlynol mewn un ffeil pdf erbyn 6 Mai 2025 i bajs2025@caerdydd.ac.uk:

  • Teitl
  • Crynodeb hir (tua 1,000 o eiriau) sy'n disgrifio eich cwestiynau a'ch dulliau ymchwil, yn ogystal ag unrhyw ganfyddiadau rhagarweiniol os ydyn nhw ar gael.
  • Llythyr eglurhaol (hyd at 1 dudalen)
  • CV byr (hyd at 2 dudalen)

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr PhD sydd wedi cwblhau o leiaf un flwyddyn o'u rhaglen. Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai nad ydyn nhw’n cyflwyno yng nghynhadledd BAJS 2025.

Rydyn ni’n disgwyl rhoi gwybod i ymgeiswyr llwyddiannus erbyn canol mis Mai. Bydd gofyn i’r ymgeiswyr a ddewiswyd gyflwyno sampl ysgrifenedig o 5,000 o eiriau erbyn 1 Awst 2025. Bydd y samplau ysgrifenedig hyn yn sail i drafodaethau grŵp bach. Bydd y rhai nad ydyn nhw’n cyflwyno sampl ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau yn cael eu tynnu'n ôl o'r gweithdy.

Mae'r gweithdy yn cael ei ariannu'n hael gan Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr.