Ewch i’r prif gynnwys

BAJS 2025, Cynhadledd 50 Mlynedd

Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o gynnal cynhadledd BAJS 2025, yn nodi 50 mlynedd ers cynhadledd gyntaf BAJS yng Nghaergrawnt yn 1975.

Dyddiad: 3-5 Medi 2025

Yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf, mae Japan a maes astudiaethau Japaneaidd wedi newid yn aruthrol. Mae Japan wedi profi hwb economaidd anferth ôl-rhyfel, cyn cyfnod tawel, ac arwyddion o adfer eto erbyn hyn. Mae meysydd archwilio astudiaethau Japaneaidd wedi cynyddu’n sylweddol, gan arwain at berthnasedd i ddisgyblaethau eraill, ond hefyd cwestiynau am hyfywedd ein dull astudiaethau traddodiadol.

Mae digwyddiadau fel hyn yn creu cyfle i fyfyrio ac edrych tua’r dyfodol, ac ystyried beth a ddaw yn y dyfodol. Er enghraifft, bydd poblogaeth sy’n heneiddio yn trawsnewid Japan, gan arwain at ragor o awtomeiddio, arloesedd meddygol a mudo. Bydd goblygiadau sylweddol yn deillio o hyn i’r economi, y gweithlu a perthnasoedd gyda’i chymdogion, ei hunaniaeth genedlaethol a dysgu iaith. Sut bydd y ffenomena hyn yn siapio Japan ac astudiaethau Japaneaidd?

Felly, rydym yn gwahodd ysgolheigion i fyfyrio ar ddyfodol astudiaethau Japaneaidd, ac ystyried pa feysydd fydd yn dod yn fwyfwy pwysig i’n maes ni. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn ffafrio pynciau cyfoes neu sy’n edrych tua’r dyfodol. Mae pryderon am y dyfodol yn berthnasol i bob agwedd ar ein maes gwaith. Bydd mwy o fynediad i archifau, dealltwriaeth well o’r hyn sydd gyfystyr ag ymchwil foesegol a’r ffocws cynyddol ar genhadaeth ddinesig yn arwain at oblygiadau i ymchwil llenyddol a hanesyddol hefyd. Anogwn ysgolheigion o bob disgyblaeth i ymuno â ni wrth inni ystyried dyfodol ein cyd-weledigaeth.

Cynigion panel a phapur

Byddwn yn croesawu cynigion panel a phapur ar unrhyw bwnc yn ymwneud â Japan gan ysgolheigion o bob disgyblaeth. Fodd bynnag, hoffwn weld yn benodol cynigion sy’n archwilio i’r themâu canlynol:

  • dulliau newydd o astudio Japan; er enghraifft, rheiny sy’n mabwysiadu safbwyntiau cefnforol neu blanedol
  • dulliau rhyngddisgyblaethol a fframweithiau damcaniaethol o ran astudio Japan
  • effeithiau’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol ar greu hunaniaeth, neu arferion crefyddol a choffau
  • ymatebion Japan i ddemograffeg leol, rhanbarthol a rhyngwladol sy’n newid
  • pynciau sy’n archwilio i ddiplomyddiaeth diwylliannol a phŵer ysgafn mewn trefn fyd-eang sy’n newid
  • ymatebion gwleidyddol i newid economaidd a demograffig
  • ymatebion artistig i newid economaidd a demograffig
  • cynrychioliadau o’r gorffennol a/neu y dyfodol yn y celfyddydau, gan gynnwys llenyddiaeth, ffilm a’r celfyddydau perfformio
  • newid ieithyddol, gwneud iaith yn hybrid ac ieithoedd mewn perygl
  • effaith dealltwriaeth moesegol sy’n datblygu a fframweithiau astudio Japan
  • dulliau addysgeg arloesol o ran astudiaethau Japaneaidd

Rydym yn croesawu cynigion papur unigol, ond yn annog cyflwynwyr i drefnu paneli 90 munud o 3-4 papur, gyda chadeirydd/siaradwr dewisol.

Gofynnwn i gynigwyr ystyried amrywiaeth o ran rhyw, ethnigrwydd, statws o ran swydd a lleoliad daearyddol wrth bennu aelodau’r paneli. Diolch i haelioni Prifysgol Caerdydd a’n noddwyr eraill, ein nod yw gwneud y gynhadledd yn benodol hygyrch i ôl-raddedigion ac ysgolheigion ar ddechrau eu gyrfa, a bydden ni wir yn eu hannog i ymuno.

Bydd BAJS 2025 yn gyfarfod personol ac nid oes cyfleusterau ar gyfer hybrid neu ar-lein ar gael. Bydd cofrestru ar gyfer y gynhadledd gyfan yn unig, nid o ddydd i ddydd.

Bydd gweithdy PhD yn cael ei gynnal bore 3 Medi. Bydd galwad am gyfranogwyr yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2025.

Dylai cynigion y panel gynnwys:

  1. teitl ar gyfer y panel arfaethedig.
  2. crynodeb o 250 gair ar gyfer y panel.
  3. crynodeb o 250 gair fesul papur (uchafswm o 4 papur).
  4. enwau a chysylltiadau sefydliadol aelodau’r panel, yn ogystal ag un cyswllt enwebedig ar gyfer y panel.

Gyflwyno eich cynnig Panel

Dylai cynigion unigol gynnwys:

  1. teitl y papur.
  2. crynodeb o 250 o eiriau.
  3. enw'r cyflwynydd a'i gysylltiad sefydliadol.

Cyflwyno eich cynnig Unigol

Sylwch fod yn rhaid i gyflwynwyr cynhadledd BAJS fod yn aelodau cyfredol o BAJS. Gall y rhai nad ydynt yn aelodau gofrestru ar-lein drwy glicio’r ddolen hon.

Gall aelodau presennol gadarnhau eu statws aelodaeth.

Dyddiadau pwysig

DateEvent
16 IonawrDyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau panel a chynigion unigol
3 MawrthHysbysiad derbyn / Cofrestru'n agor
30 Mai Dyddiad cau ar gyfer cofrestru’n gynnar
15 AwstDyddiad cau ar gyfer cofrestru
3 MediCynhadledd yn dechrau
5 MediCynhadledd yn dod i ben

Astudiaethau Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae gan Brifysgol Caerdydd, sy'n aelod o Grŵp Russell, enw da am ymchwil o safon fyd-eang. Fe'i lleolir ym mhrifddinas Cymru, gwlad ddatganoledig y Deyrnas Unedig. Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gartref i astudiaethau Japaneaidd ers 1989, pan sefydlwyd Canolfan Astudiaethau Japaneaidd Caerdydd fel rhan o Ysgol Busnes Caerdydd. Ers 2014, mae astudiaethau Japaneaidd wedi cael eu lleoli yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, un o'r ysgolion ieithoedd modern mwyaf, a mwyaf deinamig, yn y DU.

Fodd bynnag, gellir dod o hyd i academyddion sy'n weithgar mewn astudiaethau Japaneaidd ar draws y sefydliad, ac maent yn gweithio mewn meysydd mor amrywiol â hanes, rheolaeth, crefydd, gwleidyddiaeth, llenyddiaeth, troseddeg, sosioieithyddiaeth, cyfieithu, a'r dyniaethau meddygol. Mae ein cymuned fywiog o ysgolheigion astudiaethau Japaneaidd hefyd yn cynnwys niferoedd cynyddol o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol.

Cysylltu â ni

I gysylltu â threfnwyr y gynhadledd, cysylltwch â bajs2025@caerdydd.ac.uk.