Cyfieithu
Canolbwyntiwch ar ddatblygu sgiliau cyfieithu proffesiynol drwy wneud cwrs cyfieithu arbenigol.
Mae galw cynyddol am sgiliau cyfieithu yn y DU, Ewrop a ledled y byd.
Ar ein rhaglenni ni, byddwch chi’n datblygu sgiliau cyfieithu ymarferol a phroffesiynol a hyfforddiant iaith fanwl i chi, ynghyd â’r cyfle i sicrhau meistrolaeth ragorol ar ddwy iaith fodern.
Ein cyrsiau
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Cyfieithu (BA) | Q910 |
Cyfieithu gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor (BA) | Q912 |
Bydd ein cwricwlwm cyfieithu (sy’n gyson â safonau Sefydliad yr Ieithyddion a Sefydliad y Cyfieithwyr) yn canolbwyntio ar gyfuno'r theori y tu ôl i gyfieithu â methodoleg a sgiliau ymarferol.
Mae modiwlau arbenigol yn trin a thrafod ym mha gyd-destunau sefydliadol y gellir defnyddio cyfieithu, yn ogystal â'r heriau y mae cyfieithwyr proffesiynol yn eu hwynebu, megis rheoli amser, rheoli adnoddau a sefydlu a chynnal rhwydweithiau.
Rhagor o wybodaeth am gyfieithu
Dyma ragor o ddolenni defnyddiol sy’n cynnig rhagor o wybodaeth am gyfieithu neu ddod yn gyfieithydd:
Archwiliwch strwythurau ein rhaglenni cyfieithu, gan gynnwys y modiwlau byddech chi’n eu hastudio yn dibynnu ar yr iaith/ieithoedd rydych chi'n dewis.