Astudio dramor
Ymgollwch mewn iaith a diwylliant arall drwy gael profiad unigryw yn treulio blwyddyn dramor.
Mae'r cyfle i dreulio blwyddyn dramor yn rhan hanfodol o'ch cwrs ac yn amhrisiadwy o ran datblygiad eich sgiliau iaith. Bydd hefyd yn gyfle cyffrous i chi gael cwrdd â phobl newydd ac i ddysgu mwy am y wlad a ddewiswyd gennych.
Mae trydedd flwyddyn pob cwrs iaith yn cynnwys blwyddyn dramor naill ai fel myfyrwyr yn un o'n prifysgolion partner, fel cynorthwyydd iaith mewn ysgol dramor, neu ar leoliad gwaith.
Bydd myfyrwyr sy'n astudio un iaith yn treulio blwyddyn lawn yn eu gwlad letyol, ond os ydych wedi dewis astudio dwy iaith, byddwch yn treulio semester ym mhob gwlad.
Sgiliau ar gyfer bywyd
Mae blwyddyn dramor yn werthfawr tu hwnt, nid yn unig ar gyfer datblygu hyfedredd yn yr iaith, ond hefyd am eich datblygiad personol.
Mae'r hyblygrwydd, annibyniaeth a'r sgiliau datrys problemau a ddatblygir yn ystod y flwyddyn hon yn aml yn cael eu crybwyll gan gyflogwyr fel bod yn nodweddion atyniadol iawn ar gyfer cyflogi myfyrwyr iaith ar ôl graddio.
Cytunodd nifer o'n cynfyfyrwyr bod ymgolli mewn diwylliant ac iaith gwlad arall yn un o brofiadau gorau eu bywyd.
Astudio
Rydym wedi datblygu nifer o bartneriaethau gyda phrifysgolion blaenllaw, sy'n golygu bod gennych chi'r cyfle i astudio yn rhai o ddinasoedd mwyaf eiconig ac ysbrydoledig y byd.
Mae lleoliadau'n cynnwys Paris, Berlin, Milan a Barcelona, yn ogystal â phrifysgolion ymhellach i ffwrdd fel Lima yn Peru, Guadalajara ym Mecsico a Beijing yn Tseina.
Addysgu
Mae gan fyfyrwyr y cyfle i weithio â'r Cyngor Prydeinig fel cynorthwywyr dysgu rhan-amser, naill ai mewn dinas neu dref gwledig.
Mae'r opsiwn yma'n darparu profiad gwych a chyflwyniad gwych i addysgu, yn ogystal â'ch galluogi i ennill cyflog.
Darparwyd hyfforddiant gan y Cyngor Prydeinig yn y lleoliad a ddewiswyd gennych, a byddwn yn darparu arweiniad am lety.
Gweithio
Mae rhai'n dewis trefnu eu lleoliad gwaith dramor mewn sefydliad neu gwmni, fel y cytunwyd gan yr ysgol.
Mae'n bwysig bod y rôl a ddewiswyd gennych yn eich galluogi i ymarfer eich iaith am ymgolli mewn diwylliant eich gwlad ddewisol.
Datblygu ymchwil sy'n dadansoddi diwydiannau diwylliannol ac economi greadigol yr 21ain ganrif, yn seiliedig ar amrywiaeth ddiwylliannol a chreadigrwydd unigol.