Sbaeneg
Iaith â chyrhaeddiad byd-eang, ac sydd wedi'i dylanwadu gan etifeddiaeth ddiwylliannol amrywiol.
Sbaeneg yw un o'r ieithoedd mwyaf arwyddocaol – o ran siaradwyr brodorol a chyrhaeddiad rhyngwladol. Fe’i defnyddir yn Sbaen, America Ladin, rhai rhannau o Affrica, ac yn gynyddol yn yr Unol Daleithiau.
Ein cyrsiau
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Cerddoriaeth ac Iaith Fodern (BA) | R753 |
Cyfieithu (BA) | Q910 |
Cyfieithu gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor (BA) | Q912 |
Cymraeg ac Iaith Fodern (BA) | R757 |
Gwleidyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) | R756 |
Hanes ac Iaith Fodern (BA) | R752 |
Ieithoedd Modern (BA) | R750 |
Ieithyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) | R755 |
Pam astudio Sbaeneg?
Mae siarad Sbaeneg yn eich galluogi i astudio diwylliannau bywiog, llenyddiaeth a gwleidyddiaeth y byd Sbaenaidd. Mae hefyd yn elfen annatod o fasnach ryngwladol, o ystyried dylanwad cynyddol gwledydd America Ladin.
Mae galw mawr am raddedigion mewm Sbaeneg ymhlith cyflogwyr amlwladol sy'n gosod gwerth ar y sgiliau iaith, cyfathrebu a rhyngddiwylliannol a ddatblygir ar gyrsiau iaith. Gall cwrs Sbaeneg agor y drws i ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd megis gwleidyddiaeth neu fusnes rhyngwladol, ymgynghori, manwerthu a marchnata, cyllid, addysgu a chyfieithu/cyfieithu ar y pryd.
Ein partneriaethau iaith
Rydyn ni’n gweithio gyda Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen (SEEO) i gefnogi myfyrwyr sy’n dysgu Sbaeneg a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd sgiliau Sbaeneg.
Ein partneriaeth â’r SEEO yw’r cyntaf o’i math rhwng y swyddfa a darparwr addysg uwch yng Nghymru.
Our year abroad is extremely valuable, not only for developing competency in your chosen language, but also for your personal development.