Ewch i’r prif gynnwys

Portiwgaleg

Llun o lawer o adeiladau ger afon.
Lisbon, Portiwgal.

Mae Portiwgaleg yn iaith o bwys yn fyd-eang sy’n cael ei siarad ledled y byd, o Bortiwgal i Frasil, yn ogystal â nifer o wledydd a rhanbarthau yn Affrica ac Asia.

Ein cyrsiau

Pam astudio Portiwgaleg?

Mae ein llwybr Portiwgaleg yn rhoi’r cyfle ichi gael profiad proffesiynol o addysgu a chyfieithu. Byddwch chi’n cael hyfforddiant arbenigol i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ieithyddol a rhyngddiwylliannol. Byddwch chi hefyd yn astudio amrywiaeth eang o bynciau sy’n ymwneud â hanes, cymdeithasau a diwylliannau’r gwledydd hynny lle siaredir Portiwgaleg.

P'un a ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n rhywun sydd â gwybodaeth uwch yn barod am Bortiwgaleg, erbyn diwedd eich cyfnod gyda ni, byddwch chi’n rhugl yn un o’r ieithoedd sy’n cael ei siarad fwyaf yn y byd.