Ewch i’r prif gynnwys

Eidaleg

Mae menyw yn sefyll ar bont droed fach yn Fenis.
Gallech chi fynd i unrhyw wlad lle caiff Eidaleg ei siarad ar eich blwyddyn dramor – llun o Lois Beard yn Fenis.

Iaith swynol, hardd gydag un o'r hanesion diwylliannol mwyaf cyfoethog yn Ewrop.

Yr Eidal yw cartref y diwydiannau dylunio a ffasiwn, ac mae hefyd yn un o arweinwyr y byd ym maes y celfyddydau, sinema, pensaernïaeth a cherddoriaeth. Mae gan yr Eidal hanes cyfoethog sy’n dyddio’n ôl i oes y Rhufeiniaid, ac mae wedi dylanwadu’n sylweddol ar ddatblygiad Ewrop.

Ein cyrsiau

Rydyn ni’n defnyddio methodolegau arloesol wrth addysgu, gan gynnwys gweithgareddau grwpiau bach a thrafodaeth barhaus, gyda chymorth gan athrawon Eidaleg a myfyrwyr cyfnewid. Byddwch chi’n datblygu eich sgiliau iaith ac ennill dealltwriaeth ddofn o ddiwylliant yr Eidal.

Pam astudio Eidaleg?

Mae Eidaleg yn cynnig amryw o gyfleoedd i weithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn Ewrop. Mae galw mawr am y sgiliau cyfathrebu a rhyngddiwylliannol unigryw a ddatblygir gan raddedigion iaith ymysg cyflogwyr ym meysydd addysgu, celfyddydau cain, bancio, y cyfryngau, twristiaeth a'r Gyfraith, i enwi rhai yn unig.