Ewch i’r prif gynnwys

Almaeneg

Llun o lawer o adeiladau lliwgar ar ddiwrnod heulog.
Rothenburg ob der Tauber, yr Almaen.

Pwerdy economaidd yn Ewrop yw’r Almaen, ac Almaeneg yw un o’r prif ieithoedd ym myd busnes.

Mae galw mawr am siaradwyr Almaeneg ymysg cyflogwyr mewn amrediad o feysydd y tu hwnt i fyd busnes, gan gynnwys y cyfryngau, y celfyddydau, addysgu, cyfieithu, cyhoeddi, y Gwasanaeth Sifil, marchnata a chyllid.

Ein cyrsiau

Trwy gynnig cymorth wedi’i deilwra, addysgu, a chyfleoedd allgyrsiol, byddwch chi’n datblygu ac yn adeiladu eich sgiliau iaith. Bydd ein cwricwlwm hefyd yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth fanwl ynghylch y byd Almaeneg, ei iaith a’i ddiwylliant. Bydd hyn yn cynnwys cyfnod o astudio, gweithio neu addysgu dramor.

Fe gewch chi gyfle hefyd i wneud modiwlau dewisol a fydd yn gydnaws â'ch astudiaethau iaith a chyfathrebu craidd, i gyd wedi’u llunio o amgylch pynciau arbenigol sy'n cyd-fynd â'n harbenigedd addysgu ac ymchwil.

Fe gewch chi flas ar ystod o ddulliau addysgu a chymysgedd o asesiadau traddodiadol a rhai arloesol – o arholiadau a thraethodau, i flogiau, cyflwyniadau, adolygiadau ffilm, a thraethodau ffotograffau.

Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein gweithgareddau allgyrsiol, sy’n creu ymdeimlad cryf o gymuned, cynnig cyfleoedd ichi rwydweithio, a chreu ffyrdd newydd o ddefnyddio eich sgiliau iaith. Ymhlith y rhain y mae clwb ffilmiau rheolaidd, ein cylchgrawn myfyrwyr 'Leckerbissen', darlleniadau cyhoeddus gan awduron Almaeneg, arddangosfeydd, a mynediad at Gymdeithas Almaeneg frwdfrydig sy'n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr sy'n trefnu gweithgareddau, digwyddiadau cymdeithasol, a theithiau gydol y flwyddyn.

Ein partneriaethau iaith

Rydyn ni’n ffodus mai ni yw’r unig Adran Almaeneg yn y DU sydd â phresenoldeb ar y safle o'r Goethe-Institut, sefydliad diwylliannol cenedlaethol yr Almaen, yn ogystal â bod yn ganolfan arholi ardystiedig Goethe Institut.

Goethe Institut