Ffrangeg
Mewn byd lle mae pawb a phopeth o fewn cysylltiad â’i gilydd, mae Ffrangeg yn bwysicach nag erioed ac mae'r gallu i gyfathrebu yn yr iaith yn sgil amhrisiadwy.
Mae cyfleoedd cyffrous o ran gyrfa ar gael yn Ewrop ar gyfer y rheiny â sgiliau iaith Ffrangeg, ac mae'r sgiliau cyfathrebu rhagorol y byddwch yn eu hennill yn ddeniadol iawn i sefydliadau rhyngwladol ledled y byd, yn ogystal â chyrff diplomyddol a gwleidyddol.
Ein cyrsiau
Enw’r radd | Côd UCAS |
---|---|
Cerddoriaeth ac Iaith Fodern (BA) | R753 |
Cyfieithu (BA) | Q910 |
Cyfieithu gyda Blwyddyn Lleoliad Dramor (BA) | Q912 |
Cymraeg ac Iaith Fodern (BA) | R757 |
Gwleidyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) | R756 |
Hanes ac Iaith Fodern (BA) | R752 |
Ieithoedd Modern (BA) | R750 |
Ieithyddiaeth ac Iaith Fodern (BA) | R755 |
Pam astudio Ffrangeg?
Astudiwch ar y llwybr Ffrangeg, a byddwch chi’n datblygu lefel uchel iawn o hyfedredd mewn Ffrangeg, yn ogystal â magu dealltwriaeth feirniadol o agweddau allweddol ar gymdeithas a diwylliant Ffrainc fodern a chyfoes.
Ar ôl cwblhau eich astudiaethau ar ein llwybr Ffrangeg, byddwch yn gallu defnyddio'ch sgiliau iaith newydd i weithio mewn llawer o wledydd.
Our year abroad is extremely valuable, not only for developing competency in your chosen language, but also for your personal development.