Tsieinëeg
Dewch i ymgolli mewn Tsieinëeg a dysgu agweddau pwysig ar ddiwylliant Tsieina, o’r gorffennol a'r presennol.
Iaith fyd-eang yw Tsieinëeg ac wrth i Tsieina ennill ei phlwyf mewn diwydiannau fel cludiant, bancio a thelathrebu, mae Mandarin erbyn hyn yn iaith a ffefrir gan gyflogwyr sy'n gweithio'n rhyngwladol. Y tu allan i Tsieina, mae cymunedau mawr ym mhob cwr o’r byd sy’n siarad Tsieinëeg, gan gynnwys Singapore, Llundain a Vancouver.
Ein cyrsiau
Os byddwch chi’n dewis astudio ein rhaglen Tsieinëeg (BA), byddwch chi’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd am ddwy flynedd gyntaf eich gradd cyn mynd dramor ar gyfer eich trydedd flwyddyn, lle byddwch chi’n astudio yn o'n sefydliadau partner yn Tsieina. Ar ddiwedd eich blwyddyn dramor, byddwch chi’n dychwelyd i Brifysgol Caerdydd ar gyfer eich blwyddyn olaf o astudio.
Fel arall, gallech chi ddewis y cwrs Tsieinëeg Fodern (BA) lle byddwch chi’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod blynyddoedd 1 a 4, a byddwch chi’n treulio blynyddoedd 2 a 3 yn Tsieina.
Ar ôl cwblhau eich astudiaethau ar ein llwybr Tsieinëeg yn llwyddiannus, byddwch chi’n meddu ar lefel uchel o hyfedredd mewn Tsieinëeg, sy'n cyfateb i C1 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR). Dyma sgil hanfodol i unrhyw un sy'n dymuno byw yn Tsieina neu Taiwan, neu weithio i sefydliad o Tsieina neu Taiwan.