Ewch i’r prif gynnwys

Ôl-raddedig a addysgir

Student in library

Am fod inni fri rhyngwladol mewn ymchwil ac addysgu, rydym ni’n rhoi’r cyfle i chi fynd ar drywydd eich diddordebau mewn ieithoedd a diwylliannau, a hynny o fewn amgylchedd cyffrous a rhyngddisgyblaethol.

Rydym ni’n denu ystod eang o fyfyrwyr rhyngwladol ac o’r DU bob blwyddyn sy’n ffynnu ar ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir amrywiol. Tra bod ein cwrs MA Astudiaethau Cyfieithu hynod lwyddiannus yn cynnig hyfforddiant craidd mewn theori ac ymarfer cyfieithu, mae ein cwrs MA Diwylliannau Byd-eang wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi ymchwil o ddiwydiannau diwylliannol ac economi greadigol yr 21ain ganrif.

Rydyn ni’n cynnig y cyrsiau iaith canlynol:

Addysgir ein graddau meistr yn bennaf drwy gyfrwng seminarau am fod hynny’n fodd i drin a thrafod yn academaidd-fanwl mewn grwpiau bach a chymharol anffurfiol. Asesir pob cwrs drwy gyfuniad o draethodau neu arholiadau ar y modiwlau ar ddiwedd semestrau’r hydref a’r gwanwyn ac yna fe luniwch, dan oruchwyliaeth, draethawd hir ar eich ymchwil i bwnc o’ch dewis chi.

"Roeddwn i'n mwynhau cael fy nghyflwyno i theori a pholisi diwylliannol a mwynhau'r her o gymhwyso hyn i sefyllfaoedd go iawn, trwy lens leol a byd-eang. Cefais fy ysbrydoli hefyd gan diwtoriaid y cwrs a'm hanogodd i ystyried fy mherthynas fy hun â chreadigrwydd a chynaliadwyedd."
Julia Thomas, Diwylliannau Byd-eang (MA) 2022

Cydnabyddir ansawdd academaidd ein graddau meistr yn rhyngwladol. Denwn fyfyrwyr o bob cwr o’r byd a bydd cyflogwyr mewn amrywiaeth o yrfaoedd a phroffesiynau yn awyddus iawn i gyflogi’n hôl-raddedigion.

Diwrnodau Agored i Ôl-raddedigion

Mae ein Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion yn gyfle gwych i gael gwybod rhagor am astudiaethau ôl-raddedig yng Nghaerdydd. Cewch hefyd weld ein hadeiladau mawreddog, a’r awyrgylch cyfeillgar a chynnes neu’r wefr sy’n perthyn i’r ddinas.

Rhagor o wybodaeth am ein Diwrnod Agored a’n cyfleoedd eraill

Cyfleoedd am gyllid

Yn ogystal ag Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd, mae yna hefyd gyllid ar gael gan nifer o gyrff neu sefydliadau eraill i'ch helpu chi i ariannu eich astudiaethau.

Sut i wneud cais

Ar-lein yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ymgeisio, ond gallwch hefyd wneud cais drwy'r post os oes angen. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais, gallwch chi wirio cynnydd eich cais ar-lein.

Cysylltu

Derbyniadau ôl-raddedig