Ymchwil ôl-raddedig
Mae gennym ddiwylliant ymchwil eithriadol o gryf gydag enw da am ansawdd yr ymchwil a gynhyrchir a’r nifer cynyddol o grantiau ymchwil yr ydym yn eu denu.
Rydym wedi grwpio ein cyfleoedd PhD a MPhil rhan-amser gyda'i gilydd yn y categori Astudiaethau Iaith a Chyfieithu. Rydym yn cynnig goruchwyliaeth ar draws ystod eang o bynciau ymchwil, wedi'u categoreiddio'n fras:
- hanes a chof
- diwylliant a hunaniaeth
- astudiaethau iaith a chyfieithu
- astudiaethau ardal fyd-eang
- hanes ac ideolegau
- gwrthdaro a datblygiad
- astudiaethau llenyddol a thestunol
- astudiaethau diwylliannol
- diwylliannau gweledol
- polisi, cynllunio ac arloesedd polisi addysg ieithoedd modern
Rydym yn cynnig amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol o amgylch nifer o themâu ymchwil, gyda nifer o gyfleoedd ar gyfer cydweithio. Mae ein staff academaidd wedi'u hymrwymo i gynhyrchu gwaith ymchwil sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol ym meysydd iaith, diwylliant a thu hwnt.
Byddwch yn ysgrifennu cynnig ymchwil fel rhan o'r broses ymgeisio. Mae arweiniad ar gael am sut i ysgrifennu cynnig ymchwil.
Mae'r enghreifftiau canlynol o deitlau traethawd ymchwil diweddar yn dangos cwmpas ein gallu goruchwylio a'r ystod o feysydd y gallwch ddewis eu hymchwilio:
- Gohebiaeth o'r UE yn yr wasg argraffu a datblygu mudiad gwrth-Ewropeaidd: Astudiaeth achos o Brydain a Norwy
- Ail-fframio'r Gorllewin yn Bande Dessinée: Cyfieithu, Addasu, Lleoleiddio
- Dioddefwyr, cyflawnwyr a gwylwyr: ailgysylltu eillio pen yn Ffrainc Rydd a'r Rhyfel Cartref Sbaen fel trais ar sail rhyw
- Straeon Amlieithog: Ysgrifennu, Cyfieithu a Darlunio ar gyfer Plant mewn Cyd-destunau Ieithoedd Lleiafrifol
- Mannau Amhosibl a Phwerus Addasiad Radio'r BBC
Diwrnodau Agored i Ôl-raddedigion
Bydd ein Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion yn cynnig y cyfle perffaith i chi ddarnganfod mwy am astudio ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chyfle i brofi'r amgylchedd mawreddog, yr awygylch cyfeillgar neu bwrlwm y ddinas.
Mwy o wybodaeth am ein diwrnodau agored a chyfleoedd eraill i ymweld â ni.
Cyfleoedd cyllid
Yn ogystal ag Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd, efallai bydd cyllid hefyd ar gael wrth gyrff neu sefydliadau ymchwil. Gall grantiau ymchwil ôl-raddedig yn rhoi cymorth ariannol i chi er mwyn i chi gwblhau eich astudiaethau ond hefyd gall ariannu eich presenoldeb mewn cynadleddau a digwyddiadau ymchwil.
Mae llawer o ddewisiadau ariannu ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.