Ieithoedd i Bawb

Rhowch gynnig ar iaith newydd neu wella un sydd gennych eisoes.
Mae Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith ochr yn ochr â'ch astudiaethau.
Mae ein dewisiadau astudio hyblyg yn golygu y gallwch ddysgu mewn ffordd sy'n addas i chi, boed hynny’n wythnosol, yn ddwys neu’n annibynnol.
P'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu am wella eich sgiliau iaith presennol, rydym yn gallu helpu pobl ar bob lefel. Rydym yn cynnig cyrsiau mewn amrywiaeth eang o ieithoedd ac yn cynnal dosbarthiadau ar gampws Parc Cathays.