DELE Sbaeneg
Cymwysterau swyddogol sy'n ardystio lefel cymhwysedd a hyfedredd wrth ddefnyddio'r Sbaeneg yw Diplomâu Sbaeneg yn Iaith Dramor neu DELE.
Rydyn ni’n ganolfan sy’n trefnu’r arholiadau hyn a ddyfernir gan Instituto Cervantes ar ran Gweinyddiaeth Addysg, Diwylliant a Chwaraeon Sbaen. Rydyn ni’n cynnal cyrsiau iaith a all eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau hyn.
Ffioedd arholiadau a’r amserlen
Mae ffioedd yr arholiad yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol fel ei gilydd. Mae’r arholiadau’n cael eu cynnal ym mis Mai bob blwyddyn, a gallwch chi gofrestru i’w sefyll yn ystod mis Mawrth. Yn 2025, cynhelir yr arholiadau ddydd Sadwrn 24 Mai a'r dyddiad olaf i gofrestru yw 3 Ebrill 2025.
Lefel | Ffi |
---|---|
A1 | £125 |
A2 | £165 |
B1 | £180 |
B2 | £200 |
C1 | £210 |
C2 | £240 |
Papurau ymarfer
Mae papurau ymarfer ar gael gan yr Instituto Cervantes.
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer yr arholiad, llenwch a dychwelyd ffurflen gofrestru DELE. Dylech chi anfon llungopi o ddogfen adnabod sy’n dangos llun ohonoch chi (pasbort, trwydded yrru ac ati) gyda’ch ffurflen gais a’ch taliad. Anfonwch e-bost aton ni i gael dolen i dalu'n ddiogel ar-lein.
Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus, byddwn ni’n anfon cadarnhad ymrestru atoch. Yn agosach at ddyddiad yr arholiad, byddwn ni’n anfon datganiad atoch fydd yn cadarnhau dyddiad a lleoliad yr arholiad.
Cysylltwch â ni
Language qualifications
Datblygu ymchwil sy'n dadansoddi diwydiannau diwylliannol ac economi greadigol yr 21ain ganrif, yn seiliedig ar amrywiaeth ddiwylliannol a chreadigrwydd unigol.