Ewch i’r prif gynnwys

Arholiadau CILS

Rydym yn ganolfan ar gyfer arholiadau La Certificazione di Italiano come Lingua Straniera (CILS) – arholiadau iaith Eidaleg a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n cael eu trefnu gan Brifysgol Siena (yr Eidal). Rydym yn cynnal cyrsiau iaith a all eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau hyn.

Mae’r arholiadau’n cael eu cynnal ym mis Mehefin bob blwyddyn, a gellir cofrestru i’w sefyll yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill.

Dyddiad yr arholiadau yn 2024 yw dydd Mercher, 5 Mehefin.

B1 Cittadinanza

Er mwyn sicrhau dinasyddiaeth Eidalaidd, mae angen prawf o gymhwysedd mewn Eidaleg ar lefel B1. Mae Centro CILS wedi creu arholiad B1 Cittadinanza yn benodol ar gyfer pobl sy'n gwneud cais am ddinasyddiaeth Eidalaidd. Mae'r arholiad yn fyrrach ac yn profi llai o gymwyseddau na’r arholiad B1 safonol. O’r herwydd, dim ond ar gyfer ceisiadau am ddinasyddiaeth y gellir defnyddio tystysgrif B1 Cittadinanza – nid yw’n ddilys at ddibenion gweithio nac astudio.

Os oes angen tystysgrif B1 arnoch ar gyfer gweithio neu astudio, bydd angen i chi sefyll yr arholiad B1 safonol llawn. Nodwch fod arholiad B1 Cittadinanza yn arholiad llwyddo neu fethu. Os na fydd yr ymgeisydd yn llwyddo un rhan o’r arholiad, bydd yn rhaid iddo ailsefyll yr arholiad cyfan. Ni ellir ailsefyll unedau unigol.

Ffioedd yr arholiadau

LefelFfiFfi ailsefyll fesul uned
A1£70£25
A2£70£25
B1£135£40
B1 Cittadinanza£120Amherthnasol
B2£150£45
C1£165£50
C2£180£55

Yn ogystal â'r ffioedd arholiad a sefydlwyd gan Brifysgol Siena, rydym yn codi ffi weinyddol i dalu ein treuliau. Mae'r ffi weinyddol wedi'i chynnwys yn y tabl ffioedd arholiad.

Papurau ymarfer

Mae papurau ymarfer ar gael gan Università per Stranieri di Siena. Mae Università per Stranieri di Siena wedi paratoi canllaw (yn Eidaleg yn unig) sy’n esbonio pa sgiliau iaith sy’n cael eu profi ym mhob papur. Mae gwybodaeth hefyd i ymgeiswyr ar sut i baratoi.

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer arholiad, ewch ati i lenwi a dychwelyd y ffurflen gofrestru.

Dylech anfon llungopi o ddogfen adnabod sy’n dangos llun ohonoch (pasbort, trwydded yrru ac ati) gyda’ch ffurflen gais. I dalu, anfonwch ebost atom i drefnu taliad diogel ar-lein â cherdyn.  Ni fyddwch wedi cofrestru’n llawn tan i chi dalu.  Os byddwch wedi sefyll arholiad CILS yn flaenorol, rhowch eich rhif matricwla, hefyd Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i sefyll arholiad yn 2024 yw 22 Ebrill.

Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus, bydd cadarnhad o ymrestriad yn cael ei anfon atoch. Yn agosach at ddyddiad yr arholiad, bydd datganiad mynediad yn cael ei anfon atoch sy’n cadarnhau dyddiad a lleoliad yr arholiad.

Cysylltu â ni

Language qualifications