Arholiadau Ffrangeg DELF-DALF 'Tous Publics'
Rydyn ni’n ganolfan arholi sy'n cynrychioli Institut Français du Royaume-Uni ar gyfer y cymwysterau sy’n cael eu rhoi a’u cydnabod gan Weinyddiaeth Addysg Genedlaethol Ffrainc.
Rydyn ni’n cynnig y Diplôme d’Études en Langue Française a’r Diplôme Approfondi de Langue Française. Rydyn ni hefyd yn cynnal cyrsiau iaith a all eich helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau hyn.
Esblygiad fformat arholiadau DELF-DALF
Nodwch fod arholiadau DELF-DALF yn esblygu.
Newidiadau sydd bellach ar waith
- DELF B1: Darllen a Deall ychydig yn hirach
- Gwrando a Deall (25 munud) / Darllen a Deall (45 munud) / Ysgrifennu (45 munud)
- DALF C1/C2: nid oes rhagor o opsiynau arbenigol
Gwybodaeth am y fformat newydd
Ers 2020, mae fformat newydd wedi bod ar waith ar gyfer lefel A1 hyd at lefel B2. Mae Gwrando a Deall a Darllen a Deall yn cynnwys cwestiynau amlddewis yn unig a rhagor o ddogfennau. Ers hynny, mae’r fformatau hen a newydd wedi cydfodoli, ac mae hynny’n dal i fod yn wir ar gyfer y flwyddyn hon. Felly, dylai ymgeiswyr 2025 fod yn barod i ateb cwestiynau agored a chwestiynau amlddewis, gan y gallan nhw ddod i gysylltiad â’r hen fformat wrth sefyll eu harholiad.
Sylwch nad yw'r naill fformat na'r llall yn rhoi mantais o ran anhawster, gan fod yr arholiadau’n cael eu calibradu ar gyfer pob lefel.
Mae’r uchod yn cael ei esbonio yn Ffrangeg gan France Education International fel a ganlyn:
La production et la validation psychométrique de ces épreuves ont été ralenties du fait de la crise sanitaire internationale. La période de transition (coexistence des deux formats d’épreuves de compréhension en circulation) a ainsi été redéfinie, tout en veillant à la réduire à son maximum. L’objectif pour une distribution exclusive des épreuves au nouveau format (niveaux A1 à B2) est fixé pour 2024-2025.
Rappel important: aucun format n’avantage ni ne désavantage la réussite de l’examen.
Ffioedd yr arholiadau a’r amserlen
Mae ffioedd yr arholiadau’n berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol fel ei gilydd. Mae’r arholiadau’n cael eu cynnal ym mis Mehefin bob blwyddyn yng Nghaerdydd, a gellir cofrestru yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill, ac erbyn 29 Ebrill 2025 fan bellaf.
Lefel | Ffi | Dyddiad yr arholiad ysgrifenedig (Mehefin 2025) | Dyddiad yr arholiad llafar (Mehefin 2025) |
---|---|---|---|
A1 | £95 | 2 Mehefin | 2 Mehefin |
A2 | £100 | 3 Mehefin | 3 Mehefin |
B1 | £135 | 5 Mehefin | 5 neu 6 Mehefin |
B2 | £150 | 9 Mehefin | 9 neu 10 Mehefin |
C1 | £195 | 12 Mehefin | 12 neu 13 Mehefin |
Bydd y canlyniadau ar gael ganol mis Awst.
Papurau ymarfer ac adnoddau
Gallwch chi lawrlwytho adnoddau i baratoi ar gyfer arholiadau DELF a DALF a dod o hyd i ddeunydd darllen argymelledig o wefan France Education International.
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer yr arholiadau, ewch ati i lenwi a dychwelyd y ffurflen gofrestru drwy e-bost i languages@caerdydd.ac.uk.
Anfonwch e-bost aton ni i gael y ddolen i dalu'n ddiogel ar-lein. Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus, byddwn ni’n anfon cadarnhad ymrestru atoch chi. Yn agosach at ddyddiad yr arholiad, bydd datganiad yn cael ei anfon atoch chi sy’n cadarnhau dyddiad a lleoliad yr arholiad.
Cysylltu â ni
Language qualifications
Datblygu ymchwil sy'n dadansoddi diwydiannau diwylliannol ac economi greadigol yr 21ain ganrif, yn seiliedig ar amrywiaeth ddiwylliannol a chreadigrwydd unigol.