Ewch i’r prif gynnwys

Tsieinëeg - Prawf Hyfedredd (HSK)

Mae’r (HSK) yn arholiad safonol rhyngwladol sy'n asesu gallu pobl nad ydynt yn siaradwyr Tsieinëeg brodorol i ddefnyddio Tsieinëeg Mandarin yn eu bywydau dyddiol, academaidd a phroffesiynol.

Mae'r arholiad HSK yn canolbwyntio ar sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu. Mae'r arholiad HSKK yn asesu sgiliau siarad.

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn yr Ysgol Ieithoedd Modern yn ganolfan brofi gymeradwy ar gyfer yr HSK.

Ffioedd yr arholiadau

Mae'r HSK yn cynnwys chwe lefel, o HSK 1 (dechreuwr) i HSK 6 (uwch). Mae'r HSKK yn cynnwys tair lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch.

Os nad ydych chi’n siŵr pa lefel sydd fwyaf addas i chi, cysylltwch â'ch tiwtor Tsieinëeg neu Sefydliad Confucius Caerdydd am wybodaeth a chyngor. Mae ffioedd yr arholiad yn berthnasol i ymgeiswyr mewnol ac allanol fel ei gilydd.

LefelCyfanswm hyd y prawf (munudau)Ffi myfyriwrFfi unigol
HSK 140£15£20
HSK 255£25£30
HSK 390£35£40
HSK 4105£45£50
HSK 5125£55£60
HSK 6140£65£70
LefelFfi unigol
HSKK (Sylfaenol)£25
HSKK (Canolradd)£35
HSKK (Uwch)£45

Amserlenni

Rydyn ni’n cynnig dau arholiad, yr HSK a'r HSKK. Mae'r amserlen ar gyfer y rhain fel a ganlyn:

HSK

  • Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 7 Chwefror 2025)
  • Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 12 Mawrth 2025)
  • Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 16 Mehefin 2025)
  • Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 14 Hydref 2025)
  • Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 5 Tachwedd 2025

HSKK

  • Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 7 Chwefror 2025)
  • Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 12 Mawrth 2025)
  • Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 16 Mehefin 2025)
  • Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 14 Hydref 2025)
  • Dydd Sadwrn 6 Rhagfyr 2025 (dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 5 Tachwedd 2025

Papurau ymarfer

I weld papurau ymarfer ar gyfer lefelau HSK 1 i 6 a gwybodaeth gyffredinol am yr HSK, ewch i’r wefan Profion Tsieinëeg.

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer yr arholiad, ewch ati i lenwi a dychwelyd y ffurflen gofrestru. Sylwer bod y dyddiad cau ar gyfer cofrestru fel arfer 30 diwrnod cyn dyddiad y prawf.

Chinese proficiency test registration form

Download the HSK registration form.

I dalu â cherdyn, anfonwch e-bost at languages@caerdydd.ac.uk i gael dolen i dalu'n ddiogel.

Ar ôl cofrestru'n llwyddiannus a thalu, byddwn ni’n anfon e-bost atoch i gadarnhau.

Manylion cyswllt

Language qualifications