Cymwysterau Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion
Y diplomâu nodedig canlynol yw'r cymwysterau proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gyrfa ym maes cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd.
Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Diploma Lefel 6 Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion mewn Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus yn gymhwyster ar gyfer y rhai sy'n gweithio, neu a hoffai weithio, ym meysydd y Gyfraith, Gofal Iechyd neu Lywodraeth Leol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o gyrsiau i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer yr arholiadau.
Cynhelir arholiadau ar-lein ym mis Mehefin a mis Tachwedd bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru a sefyll yr arholiadau hyn, ewch i’r dudalen ar y diploma hwn ar wefan CIOL Qualifications.
Mae modd cofrestru ar gyfer yr arholiadau mis Mehefin tan ddechrau mis Ebrill. Gofynnir i ymgeiswyr gofrestru ar wefan Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.
Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd ar gyfer yr Heddlu
Ni fydd y cymhwyster hwn ar gael i gofrestru ymgeiswyr newydd o 1 Awst 2022.
Gall ymgeiswyr presennol sydd eisoes wedi cofrestru gyda CIOLQ ac sydd wedi cwblhau un neu fwy o unedau barhau i gwblhau eu cymhwyster tan 27 Mehefin 2025.
Tystysgrif Cyfieithu (CertTrans)
Mae cymhwyster lefel gradd Tystysgrif Cyfieithu Lefel 6 Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion yn darparu tystiolaeth feincnod o sgiliau a gwybodaeth cyfieithu ymarferol ar lefel gweithio.
Fe’i datblygwyd gyda sgiliau cyfieithu cynnar yn ganolbwynt iddo, gyda chyfleoedd am gynnydd i lefelau uwch o gyfieithu proffesiynol mewn golwg ar gyfer y rhai sydd am weithio fel cyfieithydd neu adeiladu gyrfa fel cyfieithydd llawrydd.
I gael rhagor o wybodaeth am yr arholiadau hyn a chael gwybod sut i gofrestru, ewch i’r dudalen am gymwysterau CIOL ar gyfer y CertTrans.
Diploma mewn Cyfieithu
Diploma Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion mewn Cyfieithu yw'r safon aur i unrhyw un sydd am fod yn gyfieithydd llawrydd. Mae’n diwallu'r angen i fod â chymhwyster cyfieithu proffesiynol ar lefel uchel.
Cynhelir arholiadau ar-lein ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. I gael rhagor o wybodaeth am yr arholiadau hyn a chael gwybod sut i gofrestru a sefyll yr arholiadau, ewch i’r dudalen ar y diploma hwn ar wefan CIOL Qualifications.
Ni all Prifysgol Caerdydd dderbyn cyfrifoldeb am y wybodaeth sydd ar y dudalen hon. Dylid cadarnhau'r holl fanylion gyda Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.