Llwybrau at Ieithoedd Cymru
Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cydlynu Llwybrau at Ieithoedd Cymru (Llwybrau Cymru).
Mae Llwybrau Cymru yn brosiect allgymorth cenedlaethol sy’n hyrwyddo’r holl fanteision a chyfleoedd sydd ynghlwm wrth ddysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion ledled Cymru. Ei nod yw codi proffil ieithoedd rhyngwladol ledled Cymru a chefnogi ysgolion i gyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ragorol drwy ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd ychwanegol i ddysgwyr ddod i gysylltiad ag ieithoedd rhyngwladol.
Rydyn ni’n un o 5 prifysgol yng Nghymru (gyda Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe) sy’n ariannu’r rhaglen ynghyd â nifer o’r consortia addysg yng Nghymru: Consortiwm Canolbarth y De (CSC), consortiwm y Gwasanaeth Cyflawniad Addysgol (EAS) a British Council Cymru.
Ein rhaglen o weithgareddau
Mae Llwybrau Cymru yn helpu i gyflwyno amrywiaeth eang o weithgareddau wedi’u cynllunio i annog mwy o ddiddordeb mewn dysgu ieithoedd ymysg dysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae ein hystod o weithgareddau ar gael yn rhad ac am ddim i ysgolion a gynhelir gan Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru.
Llysgenhadon iaith Llwybrau Cymru
Un o’r prif weithgareddau sy’n cael ei gynnig gan y prosiect Llwybrau Cymru yw ein sesiynau gan Fyfyrwyr sy’n Llysgenhadon Iaith. Mae’r myfyrwyr hyn yn chwarae rhan bwysig iawn i helpu gyda nod prosiect Llwybrau Cymru i wella gwelededd ieithoedd rhyngwladol, cynyddu nifer y rhai sy’n dewis eu hastudio a chodi eu proffil mewn ysgolion yng Nghymru. Mae Llwybrau Cymru yn hyfforddi myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar hyd a lled prifysgolion Cymru i gyflwyno amrywiaeth o sesiynau iaith i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
Yn ystod y sesiynau hyn, bydd y myfyrwyr yn rhannu eu taith iaith bersonol nhw, yn rhoi sesiynau blasu mewn gwahanol ieithoedd rhyngwladol, ac yn rhoi sgyrsiau ar sgiliau iaith a rhai o’r llwybrau a all ddeillio o astudio ieithoedd – yn aml, bydd hyn yn ymwneud â dangos yr amrywiaeth enfawr o sgiliau a chyfleoedd mae ieithoedd yn eu cynnig i chi.
Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith
Mae’r rhaglen Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith wedi thargedu at ddysgwyr ysgolion uwchradd ym mlynyddoedd 7-9. Gall athrawon ddewis rhwng pump a saith o ddysgwyr i gynrychioli eu hysgol fel llysgenhadon iaith i hyrwyddo Ieithoedd Rhyngwladol o fewn eu hysgol a'r gymuned ehangach. Yn dilyn hyfforddiant Llysgenhadon Iaith wedi’i drefnu gan brosiect Llwybrau Cymru, bydd y disbyglion yn cwblhau amrywiaeth o heriau iaith cyffrous o fewn eu hysgol gyda’r nod o ysbrydoli eu cyd-ddysgwyr i barhau i astudio ieithoedd.
Ar ôl iddyn nhw gwblhau’r heriau, gall yr athrawon wedyn enwebu eu dysgwyr i ennill Gwobr Tîm Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith y Flwyddyn. Bydd yn rhaid i'r timau fod wedi cwblhau'r holl weithgareddau gofynnol i gael eu henwebu ar gyfer y wobr hon a rhoi tystiolaeth eu bod wedi cwblhau’r heriau. Bydd enw’r tîm buddugol yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni Disgyblion sy’n Llysgenhadon Iaith a gynhelir yn yr haf.
Archarwyr Ieithoedd Rhyngwladol
Yn dilyn llwyddiant y Pecyn Cymorth Cynradd a gafodd ei lansio gan y prosiect Llwybrau Cymru, rydyn ni bellach yn cynnig rhaglen wedi’i thargedu at ddysgwyr blwyddyn 5. Y nod yw hyfforddi’r dysgwyr hyn i fod yn llysgenhadon iaith (archarwyr!) yn eu hysgolion. Mae’r rhaglen hon yn anelu at greu rhwydwaith cymorth rhwng cyfoedion a’i wreiddio yng nghymuned yr ysgol. Caiff y dysgwyr hyn eu hyfforddi fel modelau rôl i ysbrydoli eu cyfoedion yn yr ysgol gynradd.
Bydd y dysgwyr yn cael eu hyfforddi ym Mhrifysgol Caerdydd lle byddan nhw’n cwblhau amrywiaeth o weithgareddau cyffrous, a byddan nhw wedyn yn cyflawni cyfres o heriau iaith ar ôl mynd yn ôl i'r ysgol. Unwaith eto, nod hyn yw hyrwyddo a rhannu eu diddordeb mewn dysgu ieithoedd gyda’u cyfoedion ac o fewn cymuned ehangach yr ysgol.
Cysylltu â ni
Find out what foreign language mentoring involves and how to apply.