Ewch i’r prif gynnwys

Mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern

Two ladies sat at desk smiling

Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Mentora ITM sy’n cefnogi ysgolion i hyrwyddo amlieithrwydd a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio Ieithoedd Rhyngwladol ar lefel TGAU.

Ac yntau wedi’i lansio yn 2015, mae’r prosiect yn cysylltu myfyrwyr o naw prifysgol yng Nghymru ag ysgolion uwchradd ledled Cymru i gynnal sesiynau mentora a/neu weithdai diddorol i ddysgwyr ym Mlwyddyn 7-9. Nid addysgu iaith benodol na dadansoddi rheolau gramadeg yw nod y mentora, ond yn hytrach trin a thrafod iaith a diwylliant yng nghwmni dysgwyr eraill, gan eu helpu i ystyried ieithoedd yn rhan o'u dyfodol!

Pam mae’r prosiect yn bodoli?

Mae llai nag 11% o ddysgwyr yn astudio TGAU mewn Iaith Ryngwladol. Felly, ein cenhadaeth a’n gweledigaeth yw:

  • annog dysgwyr i fod yn chwilfrydig am bob iaith a diwylliant
  • herio safbwyntiau a rhagdybiaethau ynghylch pobl eraill
  • hyrwyddo ymdeimlad o gymuned fyd-eang
  • dathlu amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol
  • amlygu sut mae astudio ieithoedd yn cefnogi gyrfaoedd a lles

Myfyrwyr

Beth yw Mentor Iaith a Diwylliant?

Two people adding post it notes to map on wall

Mae ein Mentoriaid Iaith a Diwylliant yn cynnal sesiynau a gweithdai diddorol am iaith, diwylliant a hunaniaeth, yn hytrach nag addysgu iaith benodol. Y nod yn y pen draw yw tanio brwdfrydedd dysgwyr yng Nghymru am ieithoedd a diwylliannau eraill, a’u helpu i ddeall sut y gall y meddylfryd amlddiwylliannol hwn fod o fudd iddyn nhw yn y dyfodol, ni waeth beth wnân nhw.

Mae pob mentor yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgol uwchradd, ac yn cynnal hyd at chwe sesiwn fentora gyda grŵp bach o ddysgwyr NEU yn cyflwyno hyd at bum gweithdy unigol i ddosbarthiadau llawn (gweithdai).

Pam y dylech chi gymryd rhan?

  • Bwrsariaeth
  • Datblygiad proffesiynol
  • Gweithio yn y dosbarth
  • Cwrdd â phobl newydd o'r un anian
  • Sgiliau trosglwyddadwy
  • Hyfforddiant mentora
  • Geirda proffesiynol
  • Cael eich achredu
  • Gweddnewid agweddau tuag at ieithoedd a diwylliannau

Ysgolion

Beth mae'r prosiect yn ei gynnig?

Mae ein mentoriaid sy’n fyfyrwyr yn gweithio gyda dysgwyr cyn TGAU i ystyried a gweddnewid eu hagweddau tuag at Ieithoedd Rhyngwladol. Bydd dysgwyr yn mwynhau trin a thrafod iaith a diwylliant gyda’u mentor, a byddan nhw’n cael eu hannog i ystyried Ieithoedd Rhyngwladol yn rhywbeth sy’n bodoli y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn rhan o'u dyfodol, nid yn rhywbeth fydd ond o fudd i’w gyrfa ond hefyd i’w lles.

Mae ein gwaith hefyd yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru; annog cysylltiadau trawsgwricwlaidd a grymuso dysgwyr i werthfawrogi persbectif byd-eang ehangach.

Sut galla i gymryd rhan?

Large group of MFL participants

Mynegwch eich diddordeb mewn gweithio gyda’r prosiect drwy gwblhau'r arolwg hwn.

Bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi unwaith y bydd y cyfnod i wneud cais yn dechrau, neu os gallwn ni gynnig ffordd arall ichi fod mewn cysylltiad â ni!

Rhagor o wybodaeth

Mynnwch gip ar ein gwefan i gael gwybod rhagor ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, dilynwch ni ar Instagram, X, a LinkedIn.

Os oes gennych chi gwestiynau neu ymholiadau, cysylltwch â Miss Glesni Owen, Rheolwr Gweithrediadau.

Glesni Owen

Glesni Owen

Wales Co-ordinator - Modern Foreign Languages Mentoring Project

Siarad Cymraeg
Email
owengh@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2251 1723