Gyrfaoedd a chyflogadwyedd
97.3% o'n graddedigion mewn cyflogaeth a/neu’n astudio ymhellach, ar fin dechrau swydd neu gwrs newydd, neu’n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio, 15 mis ar ôl diwedd eu cwrs (Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22).
Mae nifer ohonynt yn dechrau gweithio ar ôl graddio, ac mae eu hopsiynau swydd yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, o'r sector preifat i'r sector cyhoeddus; Y Cyngor Prydeinig, Grŵp RWS, Sony a KPMG oedd pedwar cyflogwr ar y brig ar gyfer ein graddedigion dros y tair mlynedd ddiwethajf.
Mae cyflogwyr eraill yn cynnwys Amazon, Ernst & Youn (EY), Rhaglen Cyfnewid ac Addysgu Japan, Jigsaw a TransPerfect. Mae nifer fawr o raddedigion yn derbyn gwaith sy'n berthnasol i'w defnydd o ieithoedd, megis cyfieithu, addysgu, bod yn gynorthwyydd iaith, cynorthwyydd allforio a phrawf ddarllenwyr.
Gall ein lleoliadau gwaith hefyd ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd ei angen i lwyddo o fewn marchnad gwaith gystadleuol.
Yn ogystal, ystyrir graddedigion ieithoedd modern i fod yn hynod o gyfloadwy, gyda'r gallu i gael gyrfaoedd broffesiynol yn y byd busnes, gofal cymdeithasol, marchnata a masnach.
Cymorth gyrfaol penodol
Mae ein gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr yn ystod bob cam, yn cynnal ystod o ddigwyddiadau yn ymwneud a gyrfaoedd drwy gydol y flwyddyn. Beth bynnag fo'ch dyheadau gyrfa, gallwn eich helpu i ddechrau eich siwrne gyda'n ystod o weithgaredday gyrfaoedd a chyflogadwyedd.
Mae cymorth Dyfodol Myfyrwyr yn cynnwys:
- sesiynau un-i-un drwy apwyntiad
- dosbarthiadau meistr am ysgrifennu CV, ffurflenni cais a gweithdai am gyfweliadau
- sesiynau cynllunio gyrfa sy'n cynnwys opsiynau gyrfa ar gyfer eich gradd Ieithoedd Modern
- dosbarthiadau meistr LinkedIn
- digwyddiadau rhwydweithio proffesiynol
- siaradwyr gwadd proffesiynol o ystod eang o sectorau (e.e cyfieithwyr, cyfieithwyr ar y pryd, gyrfaoedd addysgu a busnes)
- cyngor am brofiad gwaith
- lleoliadau gwaith addysgu
- cymorth arbenigol gan Hyder o ran Gyrfa
- ffug gyfweliadau
- gwybodaeth am interniaethau a raglenni hyfforddi graddedigion
- gweithgareddau menter a chymorth i fynd yn llawrydd
- cyfleoedd i weithio, astudio neu wirfoddoli tramor
- cyfle i gwblhau gwobr cyflogadwyedd (Gwobr Caerdydd)
- gwybodaeth diweddar am yrfaoedd a dolenni i wybodaeth ychwanegol am yrfaoedd i raddedigion.
Cysylltu
Mae'r gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr wedi'i leoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae cyfweliadau gyrfa ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion Ieithoedd Modern ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr; dilynwch y dolenni i 'eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr'.
Dyfodol Myfyrwyr
Ffynhonnell: Canlyniadau Arolwg Hynt Graddedigion 2021/22, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig (HESA). Hawlfraint Jisc 2024. Ni all Jisc dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau a wneir gan drydydd partïon ar sail ei ddata.
We actively engage with local communities, schools and partner organisations to promote the benefits of modern languages.