Ewch i’r prif gynnwys

Aelodau'r tîm

Mae tîm yr Astudiaeth Lles Meddyliol mewn Llencyndod: Genynnau a’r Amgylchedd (MAGES) yn rhan o Ganolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Stephan - Arweinydd y Prosiect

Yr Athro Stephan Collishaw

Yr Athro Stephan Collishaw

Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
collishaws@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8436

Rwy’n frwd dros iechyd meddwl plant, ac mae gen i fwy nag 20 mlynedd o brofiad ymchwil yn y maes hwn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sut i hyrwyddo cadernid iechyd meddwl, y cysylltiadau rhwng iechyd meddwl plant ac oedolion, ac a yw iechyd meddwl pobl ifanc yn gwella neu’n gwaethygu.

Mae’r astudiaeth hon yn bwysig i lywio ein dealltwriaeth o sut mae genynnau a’r amgylchedd yn rhyngweithio i siapio iechyd a lles meddyliol pobl ifanc.

Fran - Uwch Ymchwilydd

Yr Athro Frances Rice

Yr Athro Frances Rice

Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
ricef2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8384

Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw nodi’r hyn sy’n achosi iselder mewn llencyndod a pham ei fod yn digwydd dro ar ôl tro. Rwy’n astudio datblygiad gydol oes ac mae gen i ddiddordeb mewn nodi risgiau achosol a ffactorau amddiffynnol y gellir eu targedu fel rhan o ymyriadau seicolegol ac iechyd y cyhoedd.

Naomi - Cynorthwy-ydd Ymchwil

Mae fy rôl yn cynnwys ymweld ag ysgolion i gyflwyno gweithdai gwyddoniaeth hwyl a chasglu samplau poer (DNA) gan ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn ein hymchwil.

Mae gen i ddiddordeb mewn ffeindio’r ffactorau sy’n helpu pobl ifanc i gael lles meddyliol da. Mae gen i gefndir mewn ymchwil iechyd meddwl a gweithio gyda phobl ifanc. Ar gyfer fy PhD defnyddiais ddulliau gwahanol i edrych ar y cysylltiad rhwng y cof a hwyliau mewn pobl ifanc. Dwi hefyd wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau ymchwil mewn ysgolion a redir gan DECIPHer.

Yn fy amser sbâr, dwi’n mwynhau treulio amser gyda fy nghath, chwarae badminton a gwneud gwaith celf.

Sarah - Cynorthwy-ydd Ymchwil

Dwi’n ymweld ag ysgolion i helpu i redeg gweithdai gwyddoniaeth a chasglu DNA (poer!) gan bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein hastudiaeth.

Mae gen i ddiddordeb mewn helpu pobl i wella eu lles meddyliol. Yn flaenorol dwi wedi gweithio ar brosiect ymchwil mawr yn edrych ar y defnydd o Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (ThGY) gyda phobl ifanc mewn ysgolion. Dwi hefyd wedi gweithio mewn rôl glinigol gyda phobl ifanc mewn gwasanaeth poen cronig.

Pan dwi ddim yn y gwaith dwi’n mwynhau mynd am dro hir gyda fy nghi, treulio amser gyda fy nheulu a theithio.

Lesley - Rheolwr Labordy

Dwi’n cydlynu tîm o wyddonwyr a fydd yn cynnal y gwaith labordy, gan gynnwys echdynnu’r DNA o’r samplau poer a rhedeg y peiriannau sy’n dadansoddi’r DNA.

Fel rheolwr labordy, dwi’n gweithio gyda nifer o dimau ymchwil gwahanol yng Nghanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg i gefnogi eu hymchwil. Dwi hefyd yn gyfrifol am redeg y labordy o ddydd i ddydd.

Yn fy amser sbâr dwi’n mwynhau mynd i’r theatr, nofio ac ymweld â ffrindiau a theulu.

Lucinda - Rheolwr Samplau a Llywodraethu

Lucinda Hopkins-Jones

Lucinda Hopkins-Jones

Technician, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Email
hopkinsl6@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 8365

Dwi’n rheoli’r samplau DNA sy’n cael eu casglu ar gyfer MAGES. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion o union leoliad yr holl samplau yn y labordy ac unrhyw waith labordy sy’n cael ei wneud arnynt.

Fel rheolwr samplau a llywodraethu ar gyfer Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, dwi’n rheoli dros 10,000 o samplau ymchwil. Dwi hefyd yn sicrhau bod ein storfa a’n defnydd o samplau yn cydymffurfio â rheoliadau moeseg ymchwil.

Y tu allan i’r gwaith dwi’n dwlu treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau ac yn mwynhau dawnsio neuadd, teithio a mynd i weld sioeau cerdd a chyngherddau.