Ewch i’r prif gynnwys

Sut mae'n gweithio

Bydd y tîm MAGES yn ymweld â’ch ysgol i gyflwyno gweithdy gwyddoniaeth. Gyda’ch caniatâd, byddwn yn cymryd sampl poer gan eich plentyn.

https://www.youtube.com/playlist?list=PLjZ5uezRwS5Q8Qdaw4ef5DHe2jlZ65tm5

Ymweliadau ysgol

Bydd ein hymchwilwyr yn ymweld ag ysgol eich plentyn i gyflwyno gwasanaeth i esbonio MAGES ac yn gwahodd pob plentyn ym Mlwyddyn 7 ac 8 i gymryd rhan.

Yn dilyn hyn, byddwn yn dychwelyd i ysgol eich plentyn yn ddiweddarach i gynnal gweithdai gwyddoniaeth DNA gyda phob disgybl Blwyddyn 7 ac 8. Bydd disgyblion yn dysgu am enynnau a DNA ac yn cymryd rhan mewn arbrofion a gweithgareddau rhyngweithiol. Yn ystod y gweithdy byddwn yn gwahodd disgyblion sydd wedi cael caniatâd rhieni i roi sampl poer.

Mae cyfranogiad eich plentyn yn yr astudiaeth hon yn hollol wirfoddol. Chi a’ch plentyn fydd yn penderfynu a hoffai gymryd rhan ai peidio.

Rhoi sampl

Dim ond plant sydd wedi penderfynu rhoi DNA ac sydd wedi cael caniatâd rhieni y gofynnir iddynt roi sampl poer. Bydd plant yn cael eu pecyn casglu poer eu hunain. Mae’n hawdd ei ddefnyddio a bydd y broses ond yn cymryd ychydig funudau.

Ni fydd y broses o gasglu’r sampl yn achosi unrhyw anghysur i’ch plentyn ac ni fydd yn cymryd llawer o amser o gwbl. Gofynnir i’ch plentyn beidio â bwyta nac yfed unrhyw beth am 30 munud cyn rhoi’r sampl oherwydd gall hyn effeithio ar ansawdd y DNA yn y poer. Efallai y bydd braidd yn sychedig, felly byddwn yn rhoi diod o ddŵr i bob plentyn ar ôl iddo roi ei sampl.

Offer DNA Oragene
Offer DNA Oragene

Caiff y DNA yn y samplau poer ei storio a’i ddadansoddi yn labordai geneteg Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr astudiaeth yn cysylltu gwybodaeth enetig yn ddiogel ac yn ddienw o’r sampl hon â gwybodaeth am iechyd a lles eich plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chasglu fel mater o drefn mewn ysgolion a chofnodion iechyd ac addysg eich plentyn.

Cymryd rhan

Os hoffech i’ch plentyn gymryd rhan, bydd angen i chi gwblhau a dychwelyd ffurflen ganiatâd drwy radbost. Bydd ffurflenni caniatâd yn cael eu hanfon at bob rhiant mewn ysgolion sy’n cymryd rhan. I gael ffurflen ganiatâd, cysylltwch â ni:

MAGES Team

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth ar gael ar ein taflen wybodaeth i rieni a phobl ifanc.

Taflen Wybodaeth i Rieni Cadwch y copi hwn.pdf

Bydd y daflen wybodaeth hon yn eich helpu i benderfynu a ddylid rhoi caniatâd i'ch plentyn gymryd rhan mewn MAGES.

Taflen Wybodaeth i Bobl Ifanc Cadwch y copi hwn .pdf

Bydd y daflen wybodaeth hon yn helpu pobl ifanc i benderfynu a ddylid cymryd rhan yn yr ymchwil MAGES.