Ewch i’r prif gynnwys

Themâu

Mae angen therapïau newydd arnom i allu cynnal poblogaeth iach yn ein byd modern.

Mae ein hymchwil yn ymwneud â’r broses darganfod cyffuriau fodern ar draws meysydd iechyd yr ymennydd a chanser.

Iechyd yr ymennydd

Mae'r Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd yn amcangyfrif mai £70 i £100 biliwn y flwyddyn yw cost economaidd cyflyrau iechyd meddwl yn y DU. Drwy optimeiddio therapïau, gallwn gael effaith sylweddol ar fywydau cleifion a’r sector gofal iechyd.

Mae ein hymchwil yn cael ei gwneud gan dîm amlddisgyblaethol o arbenigwyr er mwyn i ni allu mynd i’r afael â heriau mwyaf ein hoes ym maes iechyd.

Mae gwyddonwyr yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’n gweithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r brifysgol, yn ogystal â’r diwydiant, er mwyn troi gwyddoniaeth flaengar mewn labordai’n driniaeth ar erchwyn gwely’r claf.

Mae ein hymchwil yn nodi opsiynau therapiwtig newydd ar gyfer cyflyrau sy’n cynnwys sgitsoffrenia, gorbryder, iselder a seicosis.

Canser

Mae gennym bortffolio sefydledig o brosiectau sy'n canolbwyntio ar wella triniaethau ar gyfer canser. Rydym yn gweithio ar ddatblygu a nodi targedau effeithiol er mwyn nodi triniaethau personoledig a fydd yn lleihau sgîl-effeithiau a gwella canlyniadau i bobl â chanser.