Ymchwil
Rydym ni'n defnyddio ein harbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil i gynhyrchu meddyginiaethau newydd, a fydd yn y pen draw yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cleifion ar draws y byd.
Mae'r byd yn wynebu poblogaeth sy'n cynyddu ac yn heneiddio, yn ogystal â phwysau i ddatblygu triniaethau ar gyfer clefydau a chyflyrau sy'n bygwth neu'n newid bywydau. Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau'n trosi ymchwil sy'n arwain y byd yn ddatblygiadau fferyllol sy'n helpu i drawsnewid gofal cleifion.
Rydym ni'n dod ag ymchwilwyr blaenllaw at ei gilydd ym meysydd imiwnedd, niwrowyddoniaeth, oncoleg a chlefydau heintus. Gyda gwybodaeth helaeth am y sector fferyllol a phrawf o lwyddiant wrth ddod â meddyginiaethau newydd i'r clinig, ein gweledigaeth yw datblygu dull newydd ar gyfer datblygu meddyginiaethau newydd ar gyfer niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl a chanser, yn ogystal â hyfforddi ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr sy'n darganfod meddyginiaethau.
Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd ar gyfer hen dargedau fferyllol i ailosod a gwella eu defnydd clinigol, yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau a thargedau newydd i greu therapiwteg newydd. Trwy greu partneriaethau a chydweithio gyda diwydiant ein nod yw trosi arbenigedd ymchwil yn ymarfer clinigol.
Yr her
Caiff datblygiadau gofal iechyd eu hysgogi gan arloesi, datblygiadau technolegol a thrwy integreiddio ymchwil mewn ymarfer clinigol. Er mwyn creu triniaethau mwy effeithiol ac effeithlon byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i ddynodi targedau moleciwlaidd newydd, defnyddio ein gwybodaeth am brosesau clefyd a meithrin agwedd gydweithredol er mwyn troi ymchwil biofeddygol blaenllaw yn gyffuriau newydd.
Rydym bellach yn awyddus i recriwtio gwyddonwyr eithriadol a staff cymorth o bob cwr o’r byd i’n helpu i lywio a chyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.