Treialon clinigol
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal treial clinigol i astudio cyffur newydd o'r enw MDI-26478 a ddatblygwyd gan y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau, a allai drin amrywiaeth o afiechydon sy’n gysylltiedig â’r ymennydd a’r system nerfol ganolog, gan gynnwys sgitsoffrenia.
Mae'r treial yn cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Wellcome.
Mae’r treial clinigol yn recriwtio gwrywod a benywod iach (nad ydynt yn gallu magu plant) rhwng 18 a 55 oed.
Rheolir y treial gan Simbec-Orion, a leolir ym Merthyr Tudful, De Cymru. Darganfod mwy o wybodaeth am y posibilrwydd o gymryd rhan yn yr astudiaeth.