Yr Athro Simon Ward
Yr Athro Simon Ward wyf i, ac rwyf i'n Athro Sêr Cymru ym maes Darganfod Cyffuriau Trosiadol, ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ymunais â'r Brifysgol yn 2017 i sefydlu'r Sefydliad, gan adeiladu ar waith oedd yn cael ei wneud yn flaenorol ym Mhrifysgol Sussex.
Beth mae darganfod meddyginiaethau'n ei olygu i chi?
Mae darganfod meddyginiaethau'n derm eang a ddefnyddir i ddisgrifio creu therapïau newydd, boed hynny'n cynnwys creu cyffur newydd sbon neu ail-bwrpasu meddyginiaethau presennol a'u cymhwyso i lwybrau triniaeth newydd.
Mewn amgylchedd academaidd, mae gweithio ym maes darganfod cyffuriau'n cynnig cyfle i mi gael effaith wirioneddol ar fywydau pobl. Rydym ni'n canolbwyntio ar glefydau nad oes ganddynt y gwerth masnachol mwyaf o reidrwydd, ond sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl sy'n derbyn triniaeth am broblemau iechyd fel canser ac iechyd meddwl.
Mae'r maes yn amlddisgyblaethol ei natur, gan dynnu gwyddonwyr o amrywiol gefndiroedd at ei gilydd, i gyflawni nodau anhygoel o heriol.
Pam fod gennych chi ddiddordeb mewn darganfod cyffuriau fel ymchwilydd?
Ceir meysydd enfawr o angen meddygol, fel niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, sydd angen therapïau newydd i wella canlyniadau cleifion. Mae felly'n fraint enfawr gallu defnyddio'r swydd hon i barhau â'r frwydr bwysig i wella bywydau pobl â chyflyrau niwrolegol a chlefydau iechyd meddwl.
Trwy fy ymchwil byddwn i hefyd am i'r gwaith hwn gyfrannu at yr economi leol a rhanbarthol, trwy greu cwmnïau newydd a denu buddsoddiad i'r rhanbarth.
A allwch chi sôn ychydig am eich ymchwil ar hyn o bryd?
Mae fy ngwaith presennol yn canolbwyntio ar bortffolio cyffrous o brosiectau niwrowyddoniaeth, gyda phob un wedi derbyn buddsoddiad allanol mawr, i dargedu amrywiol glefydau. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys ymchwilio i ddysgu a chofio mewn pobl â sgitsoffrenia a chlefyd Huntington, gwella'r genhedlaeth nesaf o gyffuriau gor-bryder nad ydynt yn llonyddu, ac ymchwilio i'r ffurf fwyaf cyffredin a etifeddir o anhwylderau sbectrwm awtistig a elwir yn Fragile X.
Rydym ni hefyd yn adeiladu ar ddatblygiadau cyffrous ym Mhrifysgol Caerdydd a'r tu hwnt i ddod â'r gwaith hwn o'r labordy i erchwyn y gwely a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i driniaethau yn y clinig i gleifion sy'n wynebu clefydau iechyd meddwl a'r system nerfol ganolog, yn ogystal â chanser.
Beth mae eich swydd yn ei gynnwys heddiw?
Y bore 'ma, bues i'n cwblhau adolygiad grant ar gyfer panel Cyllido trosiadol yr MRC, sy'n rhan allweddol o fy ngwaith, gan ei bod yn bwysig bod yn weithredol yn y gymuned.
Y prynhawn 'ma, bues i'n dadansoddi data o un o'n prosiectau cam hwyr, sy'n ceisio canfod moleciwl cyffur posibl i'w symud ymlaen i dreialon clinigol.
Sut mae gweithio yn y Sefydliad hwn yn eich helpu fel ymchwilydd?
Mae'r sefydliad yn gartref i grŵp gwych ac ysbrydoledig o ymchwilwyr, sy'n dod ag amrywiaeth eang o gefndiroedd ac arbenigedd at ein nod cyffredin - sef dod o hyd i feddyginiaethau newydd.
Mae cydweithio fel tîm yn sbardun anhygoel i mi lwyddo, ac mae'n fraint cael datblygu'r sefydliad hwn ym Mhrifysgol Caerdydd a gweithio gyda gwyddonwyr mor wych.