Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Researchers working in a busy chemistry lab

Cyllidir y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, a'i nod yw trosi darganfyddiadau sylfaenol mewn prosesau clefyd a nodi targedau moleciwlaidd yn gyffuriau newydd.

Cyllidir y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy gynllun Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, a'i nod yw trosi darganfyddiadau sylfaenol mewn prosesau clefyd a nodi targedau moleciwlaidd yn gyffuriau newydd.

Yn ôl y GIG, ar hyn o bryd mae bron hanner yr holl oedolion yn y DU yn cymryd cyffuriau ar bresgripsiwn, naill ai'n ataliol neu fel triniaeth. Rydym ni'n darparu canolfan ragoriaeth, sy'n trosi arbenigedd ymchwil yn driniaethau newydd i'w defnyddio yn yr amgylchedd gofal iechyd.

Ein prif nod ymchwil yw cyflenwi darganfyddiadau cyffuriau modern i wella triniaethau sefydledig, naill ai gyda dulliau newydd ar gyfer hen dargedau neu drwy ddatblygu dulliau arloesol drwy dargedau newydd.

Mae trawsnewid bywydau cleifion wrth wraidd popeth rydym yn gweithio i’w gyflawni yn y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau. Ein ffocws yw defnyddio ein harbenigedd i droi ymchwil biofeddygol blaenllaw yn feddyginiaethau newydd a fydd yn gwella bywydau.

Yr Athro Simon Ward Cyfarwyddwr, Y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau

Gan ddod â gwyddonwyr blaenllaw’r byd at ei gilydd i gynhyrchu a nodi cyffuriau posibl newydd, rydym ni'n cynnig modd unigryw i gydweithio gyda'r diwydiant fferyllol. Mae ein hymchwil yn cwmpasu darganfod cyffuriau modern ar draws sbectrwm oncoleg, imiwnedd, niwrowyddoniaeth, clefyd y system nerfol ganolog a chlefyd anadlol.

Rydym ni'n meithrin cysylltiadau hanfodol rhwng ein hymchwilwyr a'r diwydiant fferyllol, gan ganiatáu i ni drosi ein hymchwil yn gynhyrchion real a all wella bywydau pobl ar draws y byd, a gosod Cymru ar y blaen o ran arloesi meddygol.

Mae'r Sefydliad wedi'i leoli yn Ysgol y Biowyddorau ble gall fanteisio ar gyfleusterau cyfoes sy'n amgylchedd delfrydol i gynnal ein hymchwil.

Gweledigaeth

Mae ein gweledigaeth yn uchelgeisiol, a’r nod yw ein gwneud ni'n bwynt ffocws ar gyfer darganfod meddyginiaethau ac arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd a'r gymuned academaidd ehangach yn y DU. Mae'r fenter yn ategu ac yn ehangu'r gwaith hirsefydlog ar ddarganfod cyffuriau yng Nghaerdydd, yn enwedig ym meysydd niwrowyddoniaeth, canser a heintiau.

Rydym yn adeiladu ar y sylfaen ymchwil fferyllol sy'n bodoli yn y DU, gan sefydlu cymuned o tua 100 o wyddonwyr sy'n arwain y byd a sêr newydd o bedwar ban byd. Drwy feithrin cysylltiadau cryf gyda diwydiant, mae'r tîm hwn o ymchwilwyr yn trosi ymchwil sylfaenol ac yn darganfod cyffuriau newydd i'w defnyddio mewn triniaethau clinigol.

Rydym yn denu ac yn meithrin talent ymchwil ryngwladol, o'r lefel uchaf i'r myfyrwyr ôl-raddedig mwyaf addawol, gyda ffocws penodol ar wyddonwyr gyrfa gynnar talentog drwy ein menter cymrodoriaeth barhaus.

Drwy ein gwaith ymchwil, ein nod yw datblygu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr fferyllol drwy ddenu ymchwilwyr newydd i'r maes a darparu hyfforddiant rhyngddisgyblaethol a'r adnoddau diweddaraf.