Rydyn ni’n rhoi Cymru ar flaen y gad o ran arloesi meddygol, gan ddod â gwyddoniaeth arloesol i’r claf trwy droi ymchwil biofeddygol blaenllaw yn feddyginiaethau newydd ar gyfer anghenion clinigol nas diwallwyd.
Ein Nodau
Mynd i’r afael â’r angen sy’n cynyddu ond heb ei ddiwallu ym maes iechyd yr ymennydd
Manteisio ar ddarganfyddiadau gwyddonol o Gaerdydd
Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr darganfod meddyginiaethau
Addysgu myfyrwyr ôl-raddedig mewn technegau darganfod meddyginiaethau arloesol
Creu swyddi ac ysgogi twf economaidd
Rydym yn darparu rhyngwyneb gwerthfawr rhwng diwydiant a’r byd academaidd
Mae’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau’n cysylltu’r wyddoniaeth sylfaenol sy’n cael ei datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd a’r ymchwil glinigol sydd ei hangen i bennu diogelwch ac effeithiolrwydd meddyginiaethau newydd. Mae salwch sy’n cael ei drin yn wael yn rhoi baich enfawr ar gymdeithas, ac mae’r costau’n parhau i godi. Gall meddyginiaethau gwell leihau’r baich hwn, ond mae’r llwybr darganfod cyffuriau, o fainc y labordy i ochr y gwely, yn un hynod o hir ac anodd.