Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Ansawdd Bywyd Pobl Ifanc yn eu Harddegau

Mae’r holiadur Ansawdd Bywyd Pobl Ifanc yn eu Harddegau (T-QoL) wedi'i gynllunio i fesur effaith bresennol unrhyw glefyd croen ar ansawdd bywyd pobl ifanc yn eu harddegau/y glasoed.

Mae T-QoL yn cynnwys 18 o gwestiynau. Mae'n hunanesboniadol a gellir yn syml ei roi i'r claf a gofyn iddo ei lenwi, heb fod angen esboniad manwl.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall unrhyw berson ifanc yn ei arddegau/y glasoed sydd â chyflwr neu glefyd croen gwblhau T-QoL.

Gall T-QoL gael ei ddefnyddio gan glinigwyr i helpu gydag ymgynghoriadau clinigol, gwerthusiadau a phenderfyniadau clinigol a wneir gan gwmnïau fferyllol, sefydliadau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr.

Yn dibynnu ar bwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Dysgwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Ystod oedran

Mae T-QoL yn holiadur sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl rhwng 12 a 19 oed (h.y. hyd at 19 mlwydd ac 11 mis).

Amser cwblhau

Mae’r holiaduron fel arfer yn cael eu cwblhau mewn un i ddwy funud.

Cyfnod cofio

Mae'r cwestiynau'n ymwneud â'r profiadau ar adeg eu cwblhau.

Lawrlwythwch yr holiadur

Mynegai Ansawdd Bywyd Pobl Ifanc yn eu Harddegau (T-QoL) - fersiwn Saesneg wreiddiol y DU

Mae'r holiadur hwn wedi'i gynllunio i fesur effaith bresennol unrhyw glefyd croen ar ansawdd bywyd pobl ifanc yn eu harddegau/y glasoed.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiadur yn Sbaeneg, ynghyd â'r dystysgrif cyfieithu. Bydd mwy o ieithoedd yn cael eu hychwanegu pan fyddant ar gael. Dysgwch ragor am ein proses gyfieithu a dilysu ieithyddol, a beth i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

Mynegai Ansawdd Bywyd Pobl Ifanc yn eu Harddegau (T-QoL) - fersiynau iaith gwahanol

Lawrlwythwch yr holiadur.

Sut i'w sgorio

Mae sgôr pob cwestiwn fel a ganlyn:

  • Byth = 0
  • Weithiau = 1
  • Bob amser = 2

Caiff cyfanswm sgôr T-QoL ei gyfrifo drwy adio sgôr pob un o'r 18 cwestiwn at ei gilydd, gan arwain at uchafswm posibl o 36 ac isafswm o 0.

Rhennir y cwestiynau yn T-QoL yn dair rhan (parthau):

  • Hunan-ddelwedd (8 cwestiwn)
  • Lles corfforol a dyheadau ar gyfer y dyfodol (4 cwestiwn)
  • Effaith seicolegol a pherthnasoedd (6 chwestiwn)

Gellir adrodd y sgôr T-QoL hefyd fel tri sgôr ar wahân:

  • T-QoL hunan-ddelwedd (ystod sgôr 0-16)
  • T-QoL corfforol/dyfodol (ystod sgôr 0-8)
  • T-QoL seicolegol/perthnasoedd (ystod sgôr 0-12)

Ystyr sgoriau

Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf yw'r effaith ar ansawdd bywyd.

Hawlfraint

Mae T-QoL o dan hawlfraint fyd-eang, felly ni ddylech newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Rhaid ailargraffu'r datganiad hawlfraint bob amser ar ddiwedd pob copi o'r holiadur hwn ym mha bynnag iaith:

© MS Salek, MKA Basra, AY Finlay, Gorffennaf 2011

Trwy gytundeb, mae'r Brifysgol bellach yn berchen ar ac yn gweinyddu'r holl faterion hawlfraint sy'n ymwneud â T-QoL.

Datblygwyd T-QoL gan Dr M K A Basra a'r Athro A Y Finlay o'r Adran Dermatoleg ac Iacháu Clwyfau, Yr Ysgol Meddygaeth, a’r Athro M S Salek o'r Ganolfan Ymchwil Ffarmacoeconomaidd, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd.

Cyhoeddiad gwreiddiol

Basra MKA, Salek MS, Fenech D, Finlay AY. Conceptualization, development and validation of T-QoL© (Teenagers’ Quality of Life): a patient-focused measure to assess quality of life of adolescents with skin diseases. British Journal of Dermatology 2018; 178: 161-175.

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu, ariannol a chytundebol

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Awduron T-QoL

  • Yr Athro Andrew Y Finlay
  • Yr Athro Sam Salek
  • Dr Mohammad KA Basra