Ewch i’r prif gynnwys

Proffil Penderfyniad Mawr sy’n Newid Bywyd

Mae'r Proffil Penderfyniad Mawr sy’n Newid Bywyd (MLCDP) wedi'i gynllunio i gynorthwyo cleifion, clinigwyr a gwasanaethau cymorth i reoli a lleihau effaith clefydau cronig yn well trwy ddatgelu gwybodaeth am nodau ac uchelgeisiau yr effeithir arnynt.

Mae data MLCDP hefyd yn rhoi mewnwelediad strwythuredig i faich gydol oes clefyd cronig.

Ynglŷn â’r holiadur

Mae'r MLCDP yn holiadur 32 cwestiwn. Mae pum parth (adran):

  • addysg - tri chwestiwn.
  • swydd/gyrfa - naw cwestiwn.
  • teulu/perthnasoedd - pum cwestiwn.
  • cymdeithasol - 10 cwestiwn.
  • corfforol - pum cwestiwn.

Datblygwyd y cwestiynau trwy gyfweld â chleifion â chyflyrau cronig (mwy na blwyddyn) sy'n effeithio ar y galon, yr ysgyfaint, y cymalau, yr arennau, y croen a’r rhai â diabetes. Dilyswyd yr MLCDP mewn cleifion o'r chwe arbenigedd - cardioleg, neffroleg, meddygaeth anadlol, diabetes, rhiwmatoleg a dermatoleg.

Mae'r MLCDP wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer defnydd sengl. Mae hyn gan mai’r sail amser ar gyfer y cwestiynau yw’r cyfnod cyfan y mae’r ymatebydd wedi cael y cyflwr iechyd neu’r clefyd cronig.

Nid yw'r MLCDP wedi'i gynllunio i fesur newid yn dilyn ymyrraeth. Fodd bynnag, gellid ei ddefnyddio, er enghraifft, unwaith bob pum mlynedd, i benderfynu a effeithiwyd ar unrhyw benderfyniadau mawr ychwanegol sy’n newid bywyd.

Ystod oedran

Mae’r MLCDP wedi’i gynllunio i’w gwblhau gan unrhyw oedolyn 16 oed neu hŷn sydd ag unrhyw gyflwr iechyd neu afiechyd cronig (mwy na blwyddyn).

Cyfnod cofio

Mae'r MLCDP wedi'i gynllunio i gofnodi unrhyw ddylanwadau ar, neu newidiadau i, benderfyniadau mawr sy’n newid bywyd a achosir gan gyflwr iechyd neu afiechyd cronig. Wrth ateb y cwestiynau, gofynnir i'r person ystyried y cyfnod o'i fywyd ers datblygu'r cyflwr.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall unrhyw oedolyn sydd wedi dioddef o, neu sy'n dioddef o, unrhyw gyflwr iechyd neu afiechyd cronig gwblhau'r holiadur.

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Yn dibynnu ar bwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Dysgwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Lawrlwythwch yr holiadur

Major Life Changing Decisions Profile (MLCDP) - UK English version

This questionnaire is to assist patients, clinicians and support services to better manage and minimise the impact of chronic disease by revealing information about affected goals and ambitions.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiadur mewn Pwyleg, ynghyd â'r dystysgrif cyfieithu. Darllenwch ragor am ein proses gyfieithu a dilysu ieithyddol, a beth i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

Major Life Changing Decisions Profile (MLCDP) - different language version

Download the questionnaire.

Sut i'w sgorio

Gellir dehongli'r MLCDP mewn tair ffordd wahanol

Sgôr cyffredinol: nifer y penderfyniadau bywyd mawr yr effeithir arnynt gan gyflwr/clefyd

Mae'r sgôr MLCDP yn cael ei gyfrifo drwy adio nifer y penderfyniadau mawr sy’n newid bywyd yr effeithiwyd arnynt mewn unrhyw ffordd, h.y. nifer y cwestiynau lle mae'r ateb yn unrhyw beth heblaw 'Dim dylanwad' neu 'Ddim yn berthnasol'.

Yr sgôr 'Syml' isaf posibl yw 0 = ni effeithiwyd ar unrhyw benderfyniadau mawr.

Y sgôr 'Syml' uchaf posibl yw 32 = effeithiwyd ar 32 o benderfyniadau mawr.

Cyfanswm y penderfyniadau yr effeithiwyd arnynt yw'r wybodaeth fwyaf hanfodol wrth gymharu effaith gyffredinol clefyd ar benderfyniadau mawr sy'n newid bywyd.

System sgorio ymateb graddedig

Mae hwn yn ddull amgen o sgorio'r MLCDP. Gall cael gwybodaeth sgôr graddedig fod o werth i glinigwr neu ofalwr arall wrth gwnsela claf.

Mae’r dull sgorio ymateb graddedig yn defnyddio’r wybodaeth fanwl a geir drwy ateb pob cwestiwn gan ddefnyddio’r graddau:

Dim dylanwad neu ddim yn berthnasol(sgôr=0)
Ychydig o ddylanwad(sgôr=1)
Dylanwad cymedrol(sgôr=2)
Dylanwad cryf(sgôr=3)
Dylanwad cryf iawn(sgôr=4)

Gan fod 32 cwestiwn, y sgôr uchaf posibl yw 32x4 = 128

Sgoriau parth (adran).

Gellir rhoi cyfanswm sgôr i bob un o’r pum parth:

Addysg(3 chwestiwn)Sgôr uchaf = 3x4 = 12
Swydd/gyrfa(9 cwestiwn)Sgôr uchaf = 9x4 = 36
Perthnasoedd teuluol(5 cwestiwn)Sgôr uchaf = 5x4 = 20
Cymdeithasol(10 cwestiwn)Sgôr uchaf = 10x4 = 40
Corfforol(5 cwestiwn)Sgôr uchaf = 5x4 = 20

Hawlfraint a chofrestru

Mae'r MLCDP wedi'i ddiogelu dan hawlfraint, felly ni ddylech newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Rhaid atgynhyrchu’r datganiad hawlfraint hwn bob amser ar ddiwedd pob copi o’r MLCDP.

Mae’r MLCDP dan hawlfraint fyd-eang a dim ond gyda chaniatâd y gellir ei ailargraffu (ac eithrio at ddibenion clinigol arferol).  Rhaid i bob copi o’r MLCDP, ym mha bynnag iaith, ailargraffu’r datganiad hawlfraint ar ddiwedd yr MLCDP.

© Z U Bhatti, M S Salek, A Y Finlay, Ebrill 2011

Cyhoeddiad gwreiddiol

Bhatti ZU, Salek SS, Bolton CE, George L, Halcox JP, Jones SM, Ketchell IR, Moore RH, Sabit R, Piguet V, Finlay AY. The development and validation of the Major Life Changing Decision Profile (MLCDP).  Health and Quality of Life Outcomes 2013; Mai 8: 11 (1): 78 (epub).

Cyfeiriadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os oes angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay

Awduron eraill