Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg y Teulu

Mae Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg y Teulu yn holiadur a gynlluniwyd ar gyfer aelodau o deulu neu bartneriaid sy'n oedolion (dros 16 oed) cleifion (o unrhyw oed) sydd ag unrhyw glefyd croen.

Mae'n hunanesboniadol a gellir ei roi’n rhwydd i aelod o deulu/partner y claf, fydd yn ei gwblhau heb fod angen esboniad manwl.

Mae'r holiadur wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar ei ben ei hun neu fel mesur canlyniad ychwanegol gydag unrhyw holiadur a gwblheir gan y claf, fel y Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio'r holiadur mewn amrywiaeth o leoliadau.

Gan ddibynnu pwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Darllenwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Amser cwblhau

Caiff ei gwblhau fel arfer o fewn dau i dri munud.

Cyfnod adalw

Mae'r cwestiynau wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau o fewn cyfnod adalw o fis.

Lawrlwytho’r holiadur

Family Dermatology Life Quality Index (FDLQI) - English version

The Family Dermatology Life Quality Index (FDLQI) is a questionnaire designed for adults (aged 16 years and over) family members or partners of patients (of any age) with any skin disease.

Fersiynau mewn ieithoedd gwahanol

Mae'r ffeil zip hon yn cynnwys yr holiaduron mewn ieithoedd gwahanol, ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu. Darllenwch ragor am ein proses gyfieithu a dilysu ieithyddol, a beth i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

Family Dermatology Life Quality Index (FDLQI) - different language versions

Download the questionnaire in several different languages.

Sut i'w sgorio

Caiff pob cwestiwn ei sgorio fel a ganlyn:

  • Ddim o gwbl/Ddim yn berthnasol = 0
  • Ychydig = 1
  • Cryn dipyn = 2
  • Llawer iawn = 3
  • Ddim yn berthnasol = 0
  • Cwestiwn heb ei ateb = 0

Caiff cyfanswm y sgôr ei gyfrifo drwy adio sgôr pob cwestiwn gan arwain at uchafswm o 30 ac isafswm o 0.

Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf mae’r cyflwr yn amharu ar ansawdd bywyd. Gellir mynegi’r holiadur hefyd fel canran o’r sgôr uchaf posibl o 30.

Dehongli holiaduron a gwblhawyd yn anghywir

Mae'r gyfradd sy'n llwyddo i gwblhau'r holiadur yn gywir yn uchel iawn. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd ceir camgymeriadau. Os gadewir un cwestiwn heb ei ateb, caiff hwn sgôr o 0 a chaiff y sgoriau eu crynhoi a'u mynegi fel arfer allan o uchafswm o 30.

Os gadewir dau gwestiwn neu fwy heb eu hateb, ni chaiff yr holiadur ei sgorio. Os caiff dau neu fwy o opsiynau ymateb eu ticio, dylid cofnodi'r opsiwn ymateb sydd â'r sgôr uchaf. Os ceir ymateb rhwng dau flwch ticio, dylid cofnodi'r isaf o'r ddau opsiwn ymateb.

Hawlfraint a chofrestru

Mae Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg y Teulu dan hawlfraint fyd-eang, felly rhaid i chi beidio â newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Rhaid ailargraffu'r datganiad hawlfraint bob amser ar ddiwedd pob copi o'r holiadur hwn ym mha bynnag iaith:

© M K A Basra, A Y Finlay, Prifysgol Caerdydd 2005.

Trwy gytundeb, mae'r Brifysgol bellach yn berchen ar ac yn gweinyddu'r holl faterion hawlfraint sy'n ymwneud â Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg y Teulu.

Cofrestriad Llyfrgell y Gyngres UDA

Rhif: TXu1-296-736
Dyddiad cofrestru: 14 Ebrill 2006
Awduron: Dr M K A Basra a'r Athro A Y Finlay

Cyhoeddiad gwreiddiol

Basra MKA, Sue-Ho R, Finlay AY. The Family Dermatology Life Quality Index; measuring the secondary impact of skin disease. Br J Dermatol 2007; 156: 528-538. Erratum: British Journal of Dermatology 2007; 156: 791 (Rhoddir y Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg y Teulu cywir yma).

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os oes angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay