Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg

Mae'r Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg (DLQI) yn holiadur syml, ardystiedig, hawdd ei ddefnyddio y gallwch ei lenwi eich hun.

Nod y DLQI yw mesur ansawdd bywyd cleifion sy’n oedolion sy'n dioddef o glefyd croen mewn perthynas â’u hiechyd.

Ynglŷn â’r holiadur

Cyhoeddwyd y DLQI ym 1994, a hwn oedd yr holiadur ansawdd bywyd dermatoleg-benodol cyntaf. Mae'r DLQI yn cynnwys 10 cwestiwn ynghylch canfyddiad cleifion o effaith clefydau croen ar wahanol agweddau ar eu hansawdd bywyd mewn perthynas ag iechyd dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae wedi’i ddefnyddio ar gyfer llawer o wahanol gyflyrau croen mewn dros 80 o wledydd ac mae wedi’i gyfieithu i dros 110 o ieithoedd. Mae ei ddefnydd wedi’i ddisgrifio mewn dros 3,000 o gyhoeddiadau, gan gynnwys llawer o astudiaethau amlwladol.

Y DLQI yw'r mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion a ddefnyddir amlaf mewn hap-dreialon rheoledig mewn dermatoleg.

Pwy all ei ddefnyddio

Gall cleifion a chlinigwyr ddefnyddio'r DLQI at ddibenion clinigol arferol i gynorthwyo'r broses ymgynghori, gwerthuso a gwneud penderfyniadau.

Gall cwmnïau fferyllol, sefydliadau sy’n ceisio elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr hefyd ei ddefnyddio mewn ystod o leoliadau.

Yn dibynnu ar bwy ydych chi ac at ba ddiben rydych chi'n defnyddio'r holiadur, efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded a thalu ffi.

Dysgwch fwy am bwy all ddefnyddio'r holiadur hwn a sut i'w weinyddu.

Ystod oedran

Mae'r DLQI wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gydag oedolion, h.y. cleifion 16 oed a throsodd.

Amser cwblhau

Ar gyfartaledd, mae’n cymryd dwy funud i gwblhau'r DLQI. Fel arfer nid oes angen cymorth.

Cyfnod cofio

Mae'r cwestiynau wedi'u cynllunio i gael eu cwblhau gyda chyfnod cofio o un wythnos (h.y. y saith diwrnod diwethaf). Mae'r DLQI yn hunan-esboniadol a gellir yn syml ei roi i'r claf a gofyn iddo ei lenwi. Does dim angen eglurhad manwl.

Pa mor aml y dylid ei ddefnyddio

Gan fod cwestiynau’r DLQI yn canolbwyntio ar yr wythnos ddiwethaf, dylai fod o leiaf saith diwrnod rhwng pob defnydd. Ni argymhellir defnydd rheolaidd iawn, oherwydd efallai y byddwch chi neu'r claf yn cofio ac yn cael eich dylanwadu gan atebion blaenorol neu’n ateb yn llai gofalus.

Lawrlwythwch yr holiadur

Mae'r DLQI ar gael mewn fformatau Word a PDF.

Mae'r ffeiliau zip yn cynnwys fersiynau mewn sawl iaith wahanol (yn dibynnu ar ba wlad), ynghyd â'r tystysgrifau cyfieithu.

Dermatology Life Quality Index (DLQI) - original UK English version

The original version of the questionnaire, which is designed to measure the health-related quality of life of adult patients suffering from a skin disease.

Dermatology Quality of Life Index (DLQI) - USA English and other English versions

This questionnaire is available in several other English versions.

Ap DLQI

Mae'r DLQI wedi'i ddilysu'n electronig. Mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu e-fersiwn swyddogol o'r DLQI, sydd ar gael am ddim yn siopau Android ac Apple. Ei enw yw ‘DLQI: The Official App’.  

Gweld polisi preifatrwydd yr Ap.

Sgorio, dilysu a gwerthoedd cyfleustod

Mae pob cwestiwn yn cael ei sgorio ar raddfa Likert pedwar pwynt:

  • Llawer iawn = 3
  • Cryn dipyn = 2
  • Ychydig = 1
  • Ddim o gwbl = 0
  • Ddim yn berthnasol = 0
  • Cwestiwn heb ei ateb = 0

Mae'r DLQI yn cael ei gyfrifo drwy adio sgôr pob cwestiwn at ei gilydd, gan arwain at uchafswm o 30 ac isafswm o 0. Po uchaf yw'r sgôr, y mwyaf y mae’r cyflwr yn amharu ar ansawdd bywyd. Mae sgôr sy'n uwch na 10 yn dangos bod bywyd y claf yn cael ei effeithio'n ddifrifol gan ei glefyd croen.

Gellir mynegi'r sgôr fel canran o'r sgôr uchaf posib o 30, ond nid ydym yn argymell hyn, oherwydd mae'r sgôr gwreiddiol yn llawer haws ei ddeall.

Ni ddylid argraffu'r sgoriau sy'n gysylltiedig â'r gwahanol atebion ar y DLQI ei hun, gan y gallai hyn achosi tuedd.

Sgorio cwestiwn 7

Mae rhan gyntaf cwestiwn 7 yn gofyn: 'Dros yr wythnos ddiwethaf, ydy'ch croen wedi eich atal rhag gweithio neu astudio?'

Os nad yw gweithio neu astudio yn berthnasol i'r testun, yr ymateb yw 'Ddim yn berthnasol' (sgôr 0).

Os yw'r clefyd croen wedi atal y testun rhag gweithio neu astudio, yr ateb yw 'Ydy'. Gan mai 'atal' yw'r effaith fwyaf posibl, mae'n sgorio'r uchafswm o 3.

Os nad yw'r clefyd croen wedi atal y testun rhag gweithio neu astudio, yr ateb yw 'Nac ydy'. Tybir felly, gan nad yw'r clefyd croen wedi atal y testun rhag gweithio neu astudio, fod y testun yn gallu parhau i weithio neu astudio, ond y gallai'r clefyd croen beri problem iddo wrth wneud hynny.

Felly, gofynnir y cwestiwn canlynol i'r testun am faint yr effaith: 'Os "Nac ydy" (mewn geiriau eraill, 'Os nad yw'r clefyd croen wedi eich atal rhag gweithio neu astudio’), faint o broblem oedd eich croen wrth weithio neu astudio dros yr wythnos ddiwethaf?'

Mae tri ymateb posibl i'r cwestiwn 'Faint o broblem oedd eich croen wrth weithio neu astudio?': 'Sylweddol' (sgôr 2), 'Ychydig' (sgôr 1) neu 'Dim o gwbl' (sgôr 0).

Ystyr sgoriau

  • 0-1 = dim effaith o gwbl ar fywyd claf
  • 2-5 = effaith fach ar fywyd claf
  • 6-10 = effaith gymedrol ar fywyd claf
  • 11-20 = effaith fawr iawn ar fywyd claf
  • 21-30 = effaith eithriadol o fawr ar fywyd claf

Gwahaniaeth bach clinigol bwysig (MCID)

Ar gyfer cyflyrau croen llidiol cyffredinol, ystyrir newid o o leiaf bedwar pwynt yn sgôr y DLQI yn glinigol bwysig.

Is-raddfeydd

Gellir dadansoddi’r Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg o dan chwe is-radd:

AdranCwestiynauSgôr
Symptomau a theimladau Cwestiynau 1 a 2 Uchafswm 6
Gweithgareddau dyddiol Cwestiynau 3 a 4 Uchafswm 6
Hamdden Cwestiynau 5 a 6 Uchafswm 6
Gwaith ac ysgol Cwestiwn 7 Uchafswm 3
Perthnasoedd personol Cwestiynau 8 a 9 Uchafswm 6
Triniaeth Cwestiwn 10 Uchafswm 3

Gellir mynegi'r sgoriau ar gyfer pob un o'r adrannau hyn hefyd fel canran o naill ai 6 neu 3.

Data coll

Os nad yw un cwestiwn yn cael ei ateb, rhoddir sgôr o 0 iddo a chaiff sgôr y DLQI ei chyfansymio yn y ffordd arferol, allan o 30. Os nad yw dau gwestiwn neu fwy yn cael eu hateb, ni chaiff yr holiadur ei sgorio.

Awgrymwyd, os oes un neu fwy o gwestiynau heb eu hateb, y dylid cyfrifo sgôr wedi'i haddasu yn seiliedig ar ganran y sgôr uchaf posibl. Dydyn ni ddim yn argymell hyn, a rhoddir ein rhesymau yn y cyhoeddiad:

Finlay AY, Sampogna F. What do scores mean? Informed interpretation and clinical judgement are needed .Br J Dermatol 2018; 179: 1021-1022.

Sgorio is-raddfeydd DLQI: Os gadewir un cwestiwn heb ei ateb, ni ddylid sgorio'r is-raddfa gyfatebol.  Ni fyddai'n briodol dod i unrhyw gasgliadau o is-raddfa oni bai bod yr is-raddfa wedi'i hateb yn llawn.

Mae'r DLQI a'r cyfieithiadau wedi'u dilysu'n fanwl.

Mae'r cyhoeddiad gwreiddiol yn ymdrin â'r broses ddilysu gychwynnol:
Finlay AY, Khan GK. Dermatology Life Quality Index (DLQI): A simple practical measure for routine clinical use. Clinical and Experimental Dermatology 1994; 19: 210-216.

Mae'r erthygl adolygu hon yn ymdrin â sawl agwedd ar ddata dilysu hyd at 2008:
Basra MKA, Fenech R, Gatt RM, Salek MS, Finlay AY. The Dermatology Life Quality Index 1994-2007: a comprehensive review of validation data and clinical results. Br J Dermatol. 2008; 159:997-1035.

Ers 2008, bu llawer o gyhoeddiadau sy'n mynd i'r afael â gwahanol agweddau ar ddilysu'r DLQI. Cewch fynediad atynt drwy chwilio am y term ‘DLQI’ yn PubMed neu Google Scholar.

Er mwyn dod o hyd i gyhoeddiadau dermatoleg am ansawdd bywyd gan Brifysgol Caerdydd, gallwch chwilio drwy ORCA, storfa ddigidol y Brifysgol o'i hallbynnau ymchwil, neu PubMed gan ddefnyddio'r term chwilio awdur 'Finlay AY'.

Er bod y DLQI yn fesur dermatoleg-benodol, mae'n bosibl defnyddio techneg mapio ac atchweliad logistaidd trefnol i gynhyrchu blynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALYs) o ddata DLQI.

Am ragor o wybodaeth, gweler:

Ali FM, Kay R, Finlay AY, Piguet V, Kupfer J, Dalgard F, Salek MS. Mapping of the DLQI scores to EQ-5D utility values using ordinal logistic regression. Qual Life Res 2017; 26(11): 3025-3034.

Mae taenlen Excel ar gael yn rhad ac am ddim i ymchwilwyr a allai fod â diddordeb mewn cynhyrchu gwerthoedd cyfleustod o ddata DLQI. Anfonwch e-bost at Dr Faraz Ali am gopi o'r daenlen hon yn alifm@caerdydd.ac.uk.

Yn yr astudiaeth hon, ni neilltuwyd y cyfleustodau rhagfynegol gan ddefnyddio terfynau. Gwnaethom gyfrifo tebygolrwydd yn seiliedig ar y modelau logistaidd trefnol a osodwyd ar gyfer pob parth EQ-5D a phob canlyniad o fewn y parth hwnnw. Gan ddefnyddio efelychiad Monte-Carlo, gwnaethom wedyn gael canlyniadau ar gyfer pob pwnc ar bob parth a'r cyfleustodau rhagfynegol ar gyfer pob pwnc yn seiliedig ar y canlyniadau hyn.

Cafodd yr algorithm mapio ei brofi ar set ddata Ewropeaidd ac nid yn benodol ar boblogaeth yn y DU. Er y gall amrywiad diwylliannol ddylanwadu ar ansawdd bywyd mewn perthynas ag iechyd (HRQoL) ac ymatebion cyfleustod, nid ydym wedi profi'r cwestiwn penodol hwn yn fanwl.

Fodd bynnag, pan gafodd ein model ei greu gan ddefnyddio cleifion Eidalaidd yn unig a'i brofi ar boblogaeth Norwyaidd, perfformiodd bron cystal â'r model a ddeilliodd o'r set ddata gyflawn.

Mae ein profiad yn awgrymu, o fewn y cyd-destun Ewropeaidd, fod rhywfaint o unffurfiaeth o ran agweddau, normau diwylliannol ac ymatebion, gan fod y DLQI wedi’i gyfieithu a’i ddilysu dros gant o weithiau, gyda llawer mewn gwledydd Ewropeaidd cyfandirol.

Gan nad oes gwerthoedd Cyfnewidiad Amser Ewropeaidd (TTO) swyddogol yn bodoli ar gyfer gwladwriaethau iechyd EQ-5D, gwnaethom gymhwyso gwerthoedd TTO y DU trwy gydol y broses ddilysu.

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ymarfer tebyg sy'n cael ei gynnal ar gyfer unrhyw rai o holiaduron ansawdd bywyd dermatoleg eraill y Brifysgol.

Defnyddio'r DLQI ar gyfer dilysu mesurau newydd

DLQI - validation for new measures

Recent examples of new patient reported outcome measures and other disease measures which have been validated against the DLQI.

Hawlfraint

Mae'r DLQI wedi'i ddiogelu dan hawlfraint, felly ni ddylech newid fformat, geiriad na dyluniad yr holiadur.

Rhaid ailargraffu'r datganiad hawlfraint bob amser ar ddiwedd pob copi o'r holiadur ym mha bynnag iaith. Ar fformatau electronig rhaid i'r datganiad hawlfraint fod yn amlwg i ddefnyddwyr:

© Dermatology Life Quality Index. A Y Finlay, G K Khan, Ebrill 1992

Awduron y DLQI oedd yr Athro A Y Finlay a Dr G K Khan. Trwy gytundeb, mae'r Brifysgol bellach yn berchen ar ac yn gweinyddu'r holl faterion hawlfraint sy'n ymwneud â'r DLQI.

The USA Library of Congress Registration

Rhif: TXU 608406
Dyddiad cofrestru: 6 Rhagfyr 1993
Awduron: Yr Athro A Y Finlay a Dr G K Khan

Mae gan UDA gytundebau hawlfraint dwyochrog gyda'r rhan fwyaf o wledydd yn y byd, sydd drwy hynny’n sefydlu hawlfraint byd-eang y DLQI.

Canllawiau a chofrestrau byd-eang DLQI

DLQI worldwide guidelines and registries

Details of national and international guidelines, registries and reimbursement guidelines.

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiad gwreiddiol

Finlay, A. Y. a Khan, G. K. 1994. Dermatology Life Quality Index (DLQI)--a simple practical measure for routine clinical use. Clinical and Experimental Dermatology 19 (3), t.210-216. (10.1111/j.1365-2230.1994.tb01167.x )

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes gennych adborth ar ein tudalennau gwe, cysylltwch â ni.

Ymholiadau cyffredinol ac adborth

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Ymholiadau ariannol, cytundebol neu fyfyrwyr

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg

Os oes angen i chi gysylltu â'r Athro Finlay

Professor Andrew Finlay