Ewch i’r prif gynnwys

Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg Plant

Diben Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg Plant (CDLQI) a fersiwn y CDLQI ar ffurf cartwnau yw mesur effaith unrhyw fath o glefyd y croen ar fywydau plant.

Mae'r holiaduron yn hunanesboniadol, a’r cwbl mae angen ei wneud yw eu rhoi i'r plentyn a gofyn iddo eu llenwi gyda chymorth rhiant neu warcheidwad yn ôl yr angen.

Ynglŷn â’r holiaduron

Image of the English version of the cartoon questionnaire.
Each question is illustrated by a cartoon based on the theme of the question, making it more fun for younger children.

Cyhoeddwyd yr holiadur ym 1995. Mae'r 10 cwestiwn wedi’u seilio ar brofiad plant sydd â chlefyd y croen.

Defnyddir fersiwn yr holiadur ar ffurf cartwnau yn yr un modd ac mae’r testun bron yr un fath â’r fersiwn testun yn unig. Mae cartŵn wrth ochr pob cwestiwn i egluro thema'r cwestiwn hwnnw fel y bydd yn fwy o hwyl i blant iau.

Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau fformat yw nad yw ‘heb allu mynd i’r ysgol’ ymhlith yr atebion i gwestiwn 7 yn yr holiadur ar ffurf cartwnau. Cafodd ei ddileu am resymau dylunio gan i’r holiadur ar ffurf cartwnau gael ei lunio i helpu plant iau i’w ddefnyddio.

Mae’r ddau fersiwn wedi’u dilysu’n llawn, fodd bynnag, a does dim gwahaniaeth yn y modd y dylai cleifion ateb pob fformat. Gellir cymharu sgoriau mewn unrhyw ddadansoddiad.

Pwy sy’n cael eu defnyddio

Caiff clinigwyr, cwmnïau fferyllol, cwmnïau masnachol, sefydliadau er elw, myfyrwyr neu ymchwilwyr ddefnyddio’r holiaduron hyn mewn ystod o leoliadau.

Yn ôl pwy ydych chi a pham rydych chi’n defnyddio’r holiadur, hwyrach y bydd yn rhaid ichi wneud cais am drwydded a thalu amdani. Sylwer bod trwyddedau ar wahân yn perthyn i’r ddwy fersiwn.

Dyma ragor o wybodaeth ynghylch pwy sy’n cael defnyddio’r holiadur hwn a sut mae’i lenwi.

Ystod oedrannau

Dilyswyd dwy fersiwn holiadur y CDLQI i gleifion rhwng 4 a 16 oed (h.y. hyd at 15 mlwydd ac 11 mis).

Hwyrach y bydd yr holiadur ar ffurf cartwnau yn fwy deniadol i blant iau, a chan ei bod yn bosibl y bydd rhai yn eu harddegau yn ystyried fersiwn y cartwnau yn rhy blentynnaidd, bydd yn fwyaf priodol i gleifion rhwng 4 a thua 11/12 oed, yn ôl pob tebyg.

Defnyddio y tu allan i’r ystod gymeradwy

Os defnyddiwch yr holiadur y tu allan i’r ystod oedran gymeradwy, dylech chi ddadansoddi a dehongli’r data gan ychwanegu rhybudd nad yw’r canfyddiadau wedi’u dilysu’n ffurfiol.

Er enghraifft, os defnyddir Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg (DLQI) yn hytrach na Mynegai Ansawdd Bywyd Dermatoleg Plant (CDLQI) ar ôl i’r cleifion droi’n 17 oed, bydd anawsterau yn hyn o beth am nad oes modd cyfuno canfyddiadau’r ddau gan fod y cwestiynau a’r ffordd o’u dehongli yn wahanol.

Amser llenwi

Bydd angen un neu ddau funud i’w llenwi, fel arfer.

Cyfnod o dan sylw

Mae'r cwestiynau'n ymwneud ag effaith clefyd y croen ar blentyn dros yr wythnos ddiwethaf (y saith diwrnod diwethaf).

Lawrlwytho’r holiaduron

Children’s Dermatology Life Quality Index (CDLQI) - original UK English version (text-only)

This text-only questionnaire is designed for use in children, i.e. patients from age 4 to age 16.

Cartoon Children’s Dermatology Life Quality Index (CDLQI) - original UK English version

The British English version of the cartoon questionnaire, which is designed to measure the impact of any skin disease on the lives of children.

Ieithoedd gwahanol

Yn y ffeiliau cywasgedig, ceir fersiynau mewn ieithoedd gwahanol (yn ôl y wlad) ynghyd â’r tystysgrifau cyfieithu.

Dyma ragor o wybodaeth am y cyfieithu, y dilysu ieithyddol a’r hyn sydd i'w wneud os hoffech chi greu cyfieithiad newydd.

I ychwanegu lluniau’r cartwnau at fersiwn testun yn unig, e-bostiwch: dermqol@caerdydd.ac.uk a gofyn am ffeiliau JPEG/PNG uchel eu hansawdd.

Sut i bennu sgôr

Dyma’r sgoriau:

  • Llawer iawn = 3
  • Cryn dipyn = 2
  • Dim ond ychydig = 1
  • Dim o gwbl = 0
  • Cwestiwn heb ei ateb = 0
  • Cwestiwn 7: 'heb allu mynd i’r ysgol' (dim ond yr holiadur â thestun yn unig) = 3

Rhowch 0 i gwestiwn sydd heb ei ateb gan grynhoi a mynegi’r sgoriau yn y ffordd arferol (30 yw’r uchafswm).

Os oes dau gwestiwn neu ragor heb eu hateb, ddylech chi ddim rhoi sgôr i’r holiadur.

Os oes dau ddewis neu ragor wedi’u ticio ar gyfer un cwestiwn, dylech chi gofnodi’r sgôr uchaf.

Os oes ymateb rhwng dau flwch ticio, dylech chi gofnodi’r sgôr isaf.

Ystyr y sgoriau

  • 0-1 = dim effaith ar fywyd y plentyn
  • 2-6 = effaith fechan
  • 7-12 = effaith gymedrol
  • 13-18 = effaith fawr iawn
  • 19-30 = effaith arbennig o fawr

Cyfeirnod: Waters A, Sandhu D, Beattie P, Ezughah F, Lewis-Jones S. Severity stratification of Children’s Dermatology Life Quality Index (CDLQI) scores. Br J Dermatol 2010; 163 (Suppl 1): 121.

Dadansoddiad manwl

Gellir dadansoddi’r holiadur yn ôl chwe phennawd:

PenawdauCwestiynauSgôr
Symptomau a theimladauCwestiwn 1 a 2Sgôr uchaf 6
HamddenCwestiwn 4, 5 a 6Sgôr uchaf 9
Ysgol neu wyliauCwestiwn 7Sgôr uchaf 3
Perthnasoedd personolCwestiwn 3 ac 8Sgôr uchaf 6
CwsgCwestiwn 9Sgôr uchaf 3
TriniaethCwestiwn 10Sgôr uchaf 3

Hawlfraint a chofrestru

Mae hawlfreintiau’r CDLQI a’r CDLQI ar ffurf Cartwnau yn fyd-eang ac, felly ni chewch newid y fformat, y geiriau na’r diwyg.

Dyma ddatganiad yr hawlfraint yn achos holiadur y CDLQI testun yn unig:

© Children’s Dermatology Life Quality Index. M S Lewis-Jones, A Y Finlay, May 1993.

Dyma ddatganiad yr hawlfraint yn achos holiadur y CDLQI ar ffurf Cartwnau:

© M. S. Lewis-Jones, A. Y. Finlay. Mehefin 1993
Lluniau ©Media Resources Centre, UWCM. Rhagfyr 1996

Mae’n rhaid ychwanegu datganiad priodol yr hawlfraint at ddiwedd pob copi o’r holiadur, beth bynnag fo’r iaith. Trwy gytundeb, mae'r Brifysgol yn berchen ar yr holl faterion hawlfraint sy’n ymwneud â’r CDLQI a’r CDLQI ar ffurf Cartwnau bellach, ac yn gweinyddu’r rhain.

Cofrestriad Llyfrgell Cyngres yr UDA

Rhif: TXU 620272
Dyddiad cofrestru: 7 Chwefror 1994
Awduron: Dr M S Lewis-Jones a’r Athro A Y Finlay

Cyhoeddiadau

Cyhoeddiad gwreiddiol

Lewis-Jones MS, Finlay AY. The Children’s Dermatology Life Quality Index (CDLQI): Initial validation and practical use. British Journal of Dermatology, 1995; 132: 942-949.

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cyhoeddiad gwreiddiol

Holme SA, Man I, Sharpe JL, Dykes PJ, Lewis-Jones MS, Finlay AY.  The Children’s Dermatology Life Quality Index:  Validation of the cartoon version. British Journal of Dermatology 2003; 148: 285-290.

Cyhoeddiadau allweddol eraill

Cysylltu â ni

Mae croeso ichi gysylltu â ni i wneud ymholiadau neu roi adborth am ein gwefan.

Ymholiadau cyffredinol

Dr. Faraz Ali

Dermatology Quality of Life Administrator

Joy Hayes

Ymholiadau trwyddedu, ariannol a chytundebol

Swyddfa Trosglwyddo Technoleg