Cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i gael gwaith
Mae gwaith ymchwil Caerdydd wedi arwain at gefnogaeth well i bobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i'w helpu i ddod o hyd i waith cyflogedig ledled Cymru.
Mae pobl ifanc ag anableddau dysgu neu'r rhai sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn profi lefelau sylweddol uwch o ddiweithdra na'u cyfoedion. Yn wir, yn ôl y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, 22% yn unig o oedolion awtistig sydd mewn gwaith amser llawn, ac mae'r elusen anableddau dysgu genedlaethol MENCAP yn nodi mai 6 o bob 100 o bobl ag anableddau dysgu difrifol yn unig sydd mewn gwaith o gymharu â 79% o'r boblogaeth gyffredinol.
Er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn, archwiliodd ymchwilwyr Caerdydd ddull gweithredu o'r enw model 'cyflogaeth â chefnogaeth' ac asesu a allai helpu mwy o bobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i sicrhau gwaith cyflogedig yng Nghymru.
Dylanwadodd canfyddiadau'r tîm ar bolisi Llywodraeth Cymru a'i phenderfyniad i fuddsoddi £10m i lansio prosiect o'r enw 'Engage to Change'. Mae cannoedd o bobl ifanc wedi elwa o'r prosiect hwn sydd bellach yn eu cefnogi i gael profiad gwaith a dod o hyd i waith.
Beth yw 'cyflogaeth â chefnogaeth'?
Mae cyflogaeth â chefnogaeth yn fodel sefydledig sy'n cynorthwyo pobl ag anghenion a nodwyd – fel anableddau corfforol neu anableddau dysgu – i ddod o hyd i waith cyflogedig. Mae'r model hwn yn cynnwys defnyddio hyfforddwyr swyddi arbenigol i greu proffil o unigolyn i ystyried ei sgiliau, ei brofiad a'i ddiddordebau penodol cyn ei baru â chyflogwr addas. Mae cyflogaeth â chefnogaeth yn golygu cydweithio'n agos â chyflogwyr er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle i gael pâr llwyddiannus.
Roedd gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr Stephen Beyer, yn ystyried a oedd angen model o'r math hwn yng Nghymru i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith. Gwnaethant ddangos y byddai model cyflogaeth â chefnogaeth yn ddull gwerthfawr ac argymell sicrhau bod pobl ifanc ag anableddau dysgu ac ASD yng Nghymru yn cael hyfforddiant o ran swyddi.
Dylanwadu ar benderfyniadau polisi ac ariannu Llywodraeth Cymru
Dangosodd tîm ymchwil Caerdydd yn glir yr angen am raglen gyflogaeth â chefnogaeth yng Nghymru a'r manteision posibl i bobl ifanc ag anableddau dysgu. O ganlyniad, gwnaeth Llywodraeth Cymru benderfyniad polisi i symud oddi wrth ddefnyddio modelau cefnogaeth ar gyflogaeth cyffredinol – gan gynnwys gwasanaethau chwilio traddodiadol am swyddi a gynigir drwy'r Ganolfan Byd Gwaith – i weithredu dull cyflogaeth â chefnogaeth.
Defnyddiodd Llywodraeth Cymru gronfa £10M hefyd i sefydlu prosiect cyflogaeth â chefnogaeth o'r enw Engage to Change a gynlluniwyd gan ddefnyddio canfyddiadau Caerdydd.
Sut mae 'Engage to Change' yn newid bywydau
Mae 'Engage to Change' yn brosiect sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gynlluniwyd i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i ddod o hyd i waith yng Nghymru. Fe'i cyflwynir drwy gonsortiwm o elusennau ac asiantaethau cyflogaeth â chefnogaeth ac mae'n paru cyflogwyr â darpar weithwyr drwy raglen leoliadau. Mae'r prosiect hwn yn cael gwared ar brosesau cyflogaeth ffurfiol, megis cyfweliadau, profion a chyflwyniadau, a all fod yn rhwystr mawr i bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ddod o hyd i gyflogaeth. Mae 'Engage to Change' yn argymell hyfforddiant cyn cyflogaeth, yn hytrach na'r dull traddodiadol o gyflogi gweithiwr cyn cael unrhyw hyfforddiant i wneud y gwaith. Dyma elfen allweddol o'r model hwn sy'n ei gwneud yn fwy effeithiol i unigolion ifanc ag anableddau dysgu neu ASD gan eu bod yn cael y cyfle i gymhwyso eu hyfforddiant i sefyllfaoedd gwaith go iawn wrth ddysgu sut i gyflawni eu rôl.
Erbyn diwedd 2021, roedd 610 o bobl ifanc anabl neu awtistig wedi ymuno â'r prosiect 'Engage to Change' i gael cefnogaeth i ddod o hyd i waith. O'r rhain, roedd 490 wedi elwa o brofiad gwaith di-dâl ac roedd 388 wedi cael lleoliadau gwaith â thâl.
Ffeithiau Allweddol
- Ymchwiliodd ymchwilwyr Caerdydd i sut y gallai model cyflogaeth â chymorth helpu pobl ifanc anabl ac ASD i gael gwaith.
- Dylanwadodd yr ymchwil hwn ar bolisi Llywodraeth Cymru ac arweiniodd at fuddsoddiad o £10M gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol i ariannu'r prosiect cyflogaeth â chymorth o'r enw 'Engage to Change'.
- Mae'r prosiect 'Engage to Change' wedi cael cyfradd gyflogaeth o 53% o leoliadau â thâl, gydag 86% yn aros yn eu swyddi yn unol â metrig yr Adran Gwaith a Phensiynau o lwyddiant cyflogaeth.
Dyma’r tîm
Dr Stephen Beyer
- beyer@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8431
Cyhoeddiadau
- Beyer, S. and Beyer, A. 2017. A systematic review of the literature on the benefits for employers of employing people with learning disabilities. Technical Report.
- Beyer, S. , Meek, A. and Davies, A. 2016. Supported work experience and its impact on young people with intellectual disabilities, their families and employers. Advances in Mental Health and Intellectual Disabilities 10 (3), pp.207-220. (10.1108/AMHID-05-2014-0015)
- Vigna, E. 2015. The role of Supported Employment in promoting positive health behaviour of people with learning disabilities in work. PhD Thesis , Cardiff University.
- Beyer, S. R. 2012. The impact of agency organisation and natural support on supported employment outcomes. Journal of Vocational Rehabilitation 36 (2), pp.109-119. (10.3233/JVR-2012-0586)