Ewch i’r prif gynnwys

Gwella iechyd oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu

dr consultation with patient

Mae ein hymchwilwyr yn galluogi meddygon teulu i sgrinio oedolion a phobl ifanc ag anableddau dysgu am amrywiaeth o gyflyrau iechyd drwy offeryn sgrinio effeithiol, sef Gwiriad Iechyd Caerdydd.

Mae pobl ag anabledd deallusol yn profi mwy o broblemau iechyd na'r boblogaeth yn gyffredinol ond yn ei chael hi'n anodd rhoi gwybod am eu symptomau neu'r salwch maen nhw'n ei brofi. Datblygodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd Wiriad Iechyd Caerdydd sy'n galluogi meddygon teulu i fynd ati i sgrinio am broblemau iechyd corfforol a meddyliol mewn oedolion ag anableddau deallusol. Mae hyn wedi arwain at gannoedd ar filoedd o bobl yn derbyn Cynlluniau Gweithredu Iechyd wedi'u cynllunio i wella eu hiechyd a'u lles ar ôl canfod cyflyrau iechyd amrywiol drwy Wiriad Iechyd Caerdydd.

Beth yw Gwiriad Iechyd Caerdydd?

Cyn i ni gynnal ein hymchwil, nid oedd gwiriad iechyd safonol ar gael i feddygon ei ddefnyddio'n benodol i sgrinio pobl ag anableddau deallusol. Roedd hyn yn golygu’n aml nad oedd clefydau y gellid eu trin yn cael eu canfod a bod bwlch o ran gofal a fyddai'n arwain at ansawdd bywyd is a nifer sylweddol o farwolaethau cynnar. Er enghraifft, mae dynion ag anableddau deallusol ar gyfartaledd yn marw 13 o flynyddoedd cyn dynion yn y boblogaeth yn gyffredinol, ac mae menywod ag anableddau deallusol ar gyfartaledd yn marw 20 mlynedd yn gynharach na menywod eraill.

Er mwyn mynd i'r afael â'r angen brys i fynd ati i wirio iechyd oedolion ag anableddau deallusol, datblygodd a gwerthusodd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd Wiriad Iechyd Caerdydd (a elwir hefyd yn Wiriad iechyd Cymru).

Mae'r offeryn asesu hwn yn caniatáu i feddygon teulu gynnal adolygiadau o feddyginiaeth ac i fynd ati i sgrinio cleifion ar gyfer dangosyddion iechyd amrywiol drwy fesur eu pwysau, pwysedd gwaed, wrin, statws ysmygu, cymeriant alcohol a cholesterol. Mae Gwiriad Iechyd Caerdydd hefyd yn ystyried imiwneiddiadau, yn cynnwys sgrinio ceg y groth a mamograffeg, ac yn mesur gweithrediad resbiradol, cardiofasgwlaidd, abdomenol a'r system nerfol ganolog. Mae hefyd yn ymdrin â phroblemau meddygol sy'n gyffredin mewn pobl ag anableddau deallusol, gan gynnwys epilepsi, aflonyddwch ymddygiadol, symudedd gwael ac anawsterau cyfathrebu.

Dr in consultation room

Yn dilyn gwerthusiad o Wiriad Iechyd Caerdydd, canfu'r ymchwilwyr fod gan yn agos i 50% o'r cyfranogwyr anghenion iechyd oedd angen ymyriadau nad oeddent wedi’u nodi, a bod gan yn agos i 40% o unigolion ddau neu fwy o anghenion iechyd oedd heb eu diwallu er enghraifft anawsterau anadlu, pwysedd gwaed uchel neu ganser y fron.

Cadarnhaodd yr ymchwilwyr hefyd, ar ôl i feddygon teulu ddod i wybod am yr anghenion iechyd hyn drwy gynnal Gwiriad Iechyd Caerdydd, eu bod yn fwy tebygol o gynnig cymorth i reoli'r cyflyrau iechyd hyn drwy drefnu profion pellach, ac atgyfeirio cleifion at feddygon arbenigol eraill. Yn dilyn Gwiriad Iechyd Caerdydd canfuwyd bod meddygon teulu wedi gweithredu ar 93% o anghenion iechyd nad oeddent wedi'u canfod cyn hynny.

Ehangu Gwiriad Iechyd Caerdydd

Gan adeiladu ar ein canfyddiadau ymchwil a gwerthuso, mae Gwiriad Iechyd Caerdydd wedi'i ehangu i gynnwys pobl ifanc ag anableddau deallusol (14-18 oed) yn Lloegr yn ogystal ag oedolion ag anableddau deallusol.

Yn ogystal, galwodd Canllaw gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn 2016 am gynnwys adolygiad iechyd meddwl yng ngwiriad iechyd blynyddol pobl ag anableddau deallusol. Derbyniodd ein hymchwilwyr yr argymhelliad hwn ac estynnwyd Gwiriad Iechyd Caerdydd i sgrinio ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl yn ogystal â rhai corfforol.

Mae Gwiriad Iechyd Caerdydd wedi'i ymgorffori mewn Templed Digidol i Feddygon Teulu yn Lloegr ac mae gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn defnyddio'r gwiriad iechyd i fonitro a sgrinio eu cleifion ar gyfer amrywiol gyflyrau iechyd.

patient filling out form with dr
Learning disabled girl in art class

Mae Gwiriad Iechyd estynedig Caerdydd yn helpu i achub bywydau gan fod cyfraddau marwolaeth yn is ar gyfer pobl ag anableddau deallusol sydd wedi cael y gwiriad iechyd o'u cymharu â'r rhai sydd heb.

Ffeithiau allweddol

  • Dangosodd ymchwilwyr Caerdydd fod angen gwirioneddol i fynd ati i gynnal gwiriad iechyd ymhlith oedolion ag anableddau deallusol.
  • Mae Gwiriad Iechyd Caerdydd yn offeryn a ddefnyddir gan feddygon i sgrinio pobl ag anableddau deallusol am amrywiaeth o broblemau iechyd er mwyn gallu rhoi'r driniaeth gywir i ymdrin ag unrhyw gyflyrau iechyd a ganfyddir drwy'r broses sgrinio.
  • Mae Gwiriad Iechyd Caerdydd wedi'i ehangu i sgrinio pobl ifanc ag anableddau deallusol ac wedi'i ehangu i sgrinio am broblemau iechyd meddwl yn ogystal â chyflyrau corfforol. Mae hyn yn helpu llawer mwy o bobl ag anableddau deallusol i gael y gofal iechyd a'r driniaeth gywir i fyw bywydau hirach, iachach.