Ewch i’r prif gynnwys

Gwella gofal ac ansawdd bywyd i gleifion â chyflwr croen llidus

HS skin condition armpit

Gwella gofal ac ansawdd bywyd i gleifion â chyflyrau croen llidiol

Mae ein hymchwil yn gwella gofal clinigol ac ansawdd bywyd i bobl sydd â'r cyflwr croen llidiol Hidradenitis Suppurativa (HS).

Mae HS yn glefyd croen llidiol poenus iawn sy'n gysylltiedig â chrawniadau a berwau sy'n effeithio ar grychau croen (e.e. ceseiliau, bronnau, gafl). Er gwaethaf effaith niweidiol y briwiau croen hyn ar iechyd a lles cleifion, ychydig yn unig o ymchwil sydd wedi'i gynnal ar y clefyd. Penderfynodd tîm ymchwil o Brifysgol Caerdydd, dan arweiniad Dr John Ingram, newid hynny.

Deall pa mor gyffredin yw HS

Defnyddiodd ymchwil Caerdydd ddata gan o ddeutu 15 miliwn o gofnodion cleifion yn y DU. Crëwyd algorithm i adnabod cleifion nad oeddent wedi cael diagnosis o HS eto neu a allai fod wedi cael diagnosis anghywir.

Canfu'r ymchwilwyr fod nifer yr achosion o HS yn y DU yn uwch nag a dybiwyd yn wreiddiol, a'i fod yn effeithio ar 1% o oedolion yn hytrach na'r amcangyfrifon blaenorol o 0.1%. Heddiw byddai hynny’n cyfateb i o ddeutu 700,000 o bobl.

Canfu'r astudiaeth hefyd fod HS yn gysylltiedig ag iselder, a bod gan gleifion debygolrwydd uwch o ffactorau risg cardiofasgwlaidd fel hyperlipidaemia a diabetes math 2. Datgelodd yr astudiaeth bwysig hon wir nifer yr achosion o HS yn y DU, yn ogystal â risgiau iechyd sylweddol eraill i gleifion sy'n gysylltiedig â'r clefyd.

Hidradenitis suppurativa (HS) skin condition
Hidradenitis suppurativa (HS) is a condition that causes small, painful lumps to form under the skin. © Cardiff & Vale University Health Board

Roedd yn bwysig dangos bod hidradenitis suppurativa (HS) yn gyflwr cyffredin yn y DU, sy'n effeithio ar 1% o'r boblogaeth, a helpodd ein hymchwil i ddiffinio bylchau ymchwil, gwella argaeledd triniaeth cyffuriau, a hyrwyddo sgrinio ar gyfer cyflyrau iechyd cysylltiedig.
Dr John Ingram Clinical Senior Lecturer

Ail-fframio blaenoriaethau ymchwil a safoni mesurau canlyniadau

Yn 2013, cadeiriodd Dr Ingram Bartneriaeth Gosod Blaenoriaethau HS gyda'r nod o sefydlu agenda ymchwil newydd yn canolbwyntio ar ganfod triniaethau HS effeithiol.

Roedd y grŵp yn gydweithrediad rhwng grŵp cefnogi cleifion yr Ymddiriedolaeth HS a dermatolegwyr â phrofiad sylweddol o HS. Nodwyd bylchau gwybodaeth allweddol mewn ymchwil HS, gan gynnwys manteision yn gysylltiedig â therapïau cyffuriau biolegol ac ymyrraeth lawfeddygol. Cynhaliwyd ail adolygiad systematig gan dîm Prifysgol Caerdydd.

Nododd hwn wahaniaethau sylweddol yn y dulliau a ddefnyddir i asesu HS yn glinigol, gydag amrywiad yn y mesurau canlyniadau (gydag i bob pwrpas 30 o fesurau gwahanol wedi'u nodi ar draws 12 hap-dreial yn yr adolygiad). Oherwydd yr amrywiad mawr yn y mesurau canlyniadau nid oedd modd i'r tîm ymchwil gynnal cymhariaeth glir rhwng treialon clinigol. Mae hyn yn cyfyngu ar benderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch y driniaeth orau i wella gofal i gleifion.

Felly cydsefydlodd Dr Ingram y Cydweithrediad Rhyngwladol ar gyfer Set Canlyniadau Craidd HS (HISTORIC). Mae HISTORIC yn cynnwys cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o 19 o wledydd ar draws 4 cyfandir. Aeth y grŵp ati i geisio goresgyn anghysondeb y mesurau canlyniadau a nodwyd gan yr ymchwil gynharach, gan ganolbwyntio ar nodi mesurau canlyniadau newydd a allai fod yn sail i raglenni ymchwil a threialon HS yn y dyfodol. Gan wneud penderfyniad drwy gonsensws, nodwyd chwe maes canlyniad craidd i'w mesur ym mhob treial clinigol ar gyfer HS yn y dyfodol: poen, arwyddion corfforol, ansawdd bywyd penodol i HS, asesu byd-eang, cynnydd a symptomau'r clefyd.

HS Drug Treatment

Nodi triniaethau effeithiol ar gyfer y clefyd

Yn 2015, arweiniodd Dr Ingram adolygiad systematig ar ymyriadau i gleifion HS.

Canfu'r adolygiad fod y cyffur adalimumab (therapi gwrthgyrff alffa monoclonaidd ffactor necrosis gwrth-diwmor) yn driniaeth effeithiol ar gyfer HS, gyda chleifion yn nodi lleihad mewn poen a gwelliannau yn ansawdd eu bywyd.

Argymhellodd yr adolygiad ddefnyddio adalimumab ar gyfer trin HS mewn achosion cymedrol i ddifrifol.

Effaith

Cymeradwyo defnyddio adalimumab i drin HS

  • Yn 2016 cymeradwyodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ddefnyddio adalimumab fel yr ymyriad cyffuriau biolegol cyntaf ar gyfer HS yn y DU.
  • Cyn sicrhau'r gymeradwyaeth, roedd rhaid i feddygon gyflwyno cais am gyllid ar gyfer pob claf roeddent yn dymuno eu trin gydag adalimumab. Roedd hon yn broses gymhleth gyda niferoedd isel yn manteisio arni, oedd yn golygu mai ychydig o gleifion yn unig a gafodd fudd o'r driniaeth.
  • Arweiniodd ymchwil Caerdydd at gynnydd triphlyg mewn rhagnodi adalimumab i gleifion HS.

Cydnabyddiaeth i HS fel cyflwr cyffredin a difrifol gan Adran Gwaith a Phensiynau'r DU

  • Cydnabuwyd HS yn ffurfiol fel anabledd, gan alluogi'r rhai yr oedd HS yn effeithio arnynt i ymgeisio am Daliadau Annibyniaeth Personol a budd-daliadau eraill ar sail eu diagnosis.
  • Cynhyrchodd yr Adran Gwaith a Phensiynau fodiwl hyfforddi oedd yn cyfeirio at ymchwil Dr Ingram i roi arweiniad i feddygon galwedigaethol wrth asesu cleifion HS.

Dylanwadu ar ganllawiau a gwybodaeth i gleifion

  • Cyfrannodd ymchwil Dr Ingram at argymhelliad craidd yn y canllawiau ar i gleifion HS gael eu sgrinio am ffactorau risg cardiofasgwlaidd fel hyperlipidaemia a diabetes math 2.
  • Llywiodd ymchwil Caerdydd y canllawiau i gleifion ag HS cymedrol i ddifrifol y canfuwyd nad oeddent yn ymateb i therapi safonol. Argymhellwyd Adalimumab fel y therapi cyffuriau biolegol rheng flaen ar gyfer y grŵp hwn o gleifion.
  • Dylanwadodd ymchwil ar ddiwygio taflenni gwybodaeth i gleifion. Roedd y wybodaeth i gleifion yn cynnwys adalimumab fel opsiwn triniaeth, ac mae'n cynnwys cyngor ar iechyd meddwl a chyngor hunanofal arall.

Ysgogi newid clinigol

  • Canfu arolygon gwaelodlin a dilynol o ymarfer dermatolegol fod dermatolegwyr wedi diwygio eu harfer yn gadarnhaol.
  • Roedd 83% o ddermatolegwyr bellach yn rhagnodi adalimumab o'i gymharu â dim ond 27% yn 2014 (ar gyfer achosion HS cymedrol i ddifrifol).
  • Gostyngodd defnydd o'r deilliad fitamin A isotretinoin (y mae canllawiau Cymdeithas Dermatolegwyr Prydain yn argymell ei osgoi ar gyfer HS heb acne cysylltiedig) bron i hanner o 62% i 35%.

Gosod agenda ymchwil newydd a gwerthuso triniaethau newydd ar gyfer HS

  • Roedd ymchwil Caerdydd yn allweddol wrth ddylanwadu ar ddyrannu arian cyhoeddus i ymchwil HS am y tro cyntaf yn y DU.
  • Sicrhawyd cyllid newydd drwy gomisiynu galwad cyllid Asesiad Technoleg Iechyd, gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd.
  • Mae'r cyllid yn cefnogi ymchwil ac arloesiadau o fudd uniongyrchol i gleifion, arfer clinigol, a llunwyr polisïau, sy'n gorfod bod yn effeithiol ar unwaith o fewn llwybr gofal y GIG.
Impact

Crynodeb

Arweiniodd ymchwil Caerdydd at y canlynol:

  • Cymeradwyo adalimumab fel triniaeth gritigol a hynod effeithiol ar gyfer HS.
  • Canllawiau a newidiodd ymarfer clinigol, a dystir gan newidiadau clir mewn triniaeth ddermatolegol.
  • Gwell ansawdd bywyd i gleifion; mynediad at daliadau anabledd drwy Adran Gwaith a Phensiynau'r DU a monitro ar gyfer cyflyrau iechyd cysylltiedig.
  • Sefydlu cyllid newydd ar gyfer arloesiadau iechyd ym maes HS.