Haematoleg
Rydym yn gweithio’n agos ag ymchwilwyr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd i ganolbwyntio ar ymchwil drosi a sylfaenol o bwys i mewn i falaenedd hematolegol a threialon clinigol sy’n trin a thrafod triniaeth arloesol ar gyfer lewcemia;
Ymhlith yr ymchwil a wnawn y mae datblygu cyffuriau newydd, imiwnotherapïau a dulliau eraill sydd wedi'u targedu'n benodol, gan gynnwys therapïau cellog a chyfryngau a gyfeirir yn moleciwlaidd, yn ogystal â nodi newidiadau genetig a nodweddion clefydau moleciwlaidd y gellir eu hecsbloetio er mwyn hwyluso therapi sy'n neilltuol i’r claf.
Mae'r grwpiau ymchwil haematoleg yn gweithio ar y cyd ar draws sawl thema’r Coleg i ddadansoddi gwahanol ganserau haematolegol mewn perthynas â mecanweithiau lewcaemogenesis, bôn-gelloedd lewcaemig, datblygu cyffuriau, modelau anifeiliaid, ymwrthedd therapi microamgylcheddol a therapïau cellog newydd.
Ceir cysylltiad agos rhwng y rhaglenni hyn a’r seilwaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cynnwys yr is-grwpiau Treialon Clinigol a'r Ganolfan Treialon Ymchwil (CTR), Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC), Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC; y mae Haematoleg yn ei chyd-arwain), Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau (MDI) a’r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI). Rydym hefyd yn cysylltu â chanolfannau ymchwil academaidd cenedlaethol a rhyngwladol a grwpiau astudio cydweithredol i weithio ar amrywiaeth eang o falaeddau haematoleg, gan gynnwys y GIG, yn enwedig ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Caiff ein rhaglenni ymchwil eu cefnogi drwy gyllid gan y llywodraeth a ffynonellau elusennol eraill, gan gynnwys Y Cyngor Ymchwil Feddygol, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Ymchwil Canser y DU, Blood Cancer UK, Ymchwil Canser Cymru, Ymddiriedolaeth Wellcome yn ogystal â sawl cynllun ysgoloriaethau rhyngwladol sy’n cefnogi ymchwil ôl-raddedig.
Arweinydd y thema
Dr Mandy Tonks
Postgraduate Education Dean for the College of Biomedical and Life Sciences (BLS)
Maes diddordeb
Mae'r Athro Tonks yn arwain grŵp ymchwil amlddisgyblaethol (Grŵp Ymchwil Drosi i Ddarganfod a Thargedu Lewcemia Myeloid Aciwt (AML)) sy’n ffocysu ar ddatblygiad haematopoietig (celloedd gwaed) sy'n arwain at falaenedd haematolegol (canser y gwaed). Mae ganddo ddiddordeb yn y broses ddatblygu haematopoietig o fewn poblogaethau bôn-gelloedd a chelloedd cenedlyddol a sut mae’n direoleddio’r gennynau hyn yn achos Lewcemia Myeloid Aciwt (AML). Hyd yma, mae ei waith wedi canolbwyntio ar nodi targedau therapiwtig newydd, biofarciau a therapïau posibl ar gyfer trin un o’r canserau hyn - Lewcemia Myeloid Aciwt (AML). Yn benodol, mae'r Athro Tonks yn ymchwilio i rôl nifer o enynnau gan gynnwys RUNX1::ETO, proteinau metabolig, signalau Wnt, proteinau hnRNP, CD200, a chynhyrchiad rhywogaethau ocsigen adweithiol (ROS) mewn lewcemogenesis.
Prif aelodau o staff
Enw | Maes diddordeb |
---|---|
Yr Athro Richard Darley | Ymchwil i Lewcemia Myeloid Acíwt (AML). Cyd-arweinydd Grŵp Ymchwil Drosi i Ddarganfod a Thargedu Lewcemia Myeloid Aciwt (AML) |
Dr Steve Knapper | Treialon lewcemia myeloid acíwt (AML) mewn malaenedd myeloid a chyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol (ECMC) |
Dr Caroline Alvares | Treialon lewcemia myeloid acíwt (AML) a chyd-arweinydd y grŵp micro-amgylchedd AML |
Dr Joanna Zabkiewicz | Datblygu cyffuriau trosiadol a chyd-arweinydd y grŵp micro-amgylchedd AML |
Dr Martin Ruthardt | Lewcemogenesis ac ymasiad gennynau oncogenig ac arweinydd y grŵp therapi ymwrthedd AML |
Grwpiau ymchwil
Mae ein hymchwil yn creu buddion ar draws maes iechyd, y gymdeithas, a'r economi.