Ewch i’r prif gynnwys

Y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol a’r Tîm Amlddisgyblaethol

Group meeting

Mae Partneriaeth Arloesedd Clinigol Caerdydd yn cynnig cyngor ar wahanol bethau gan y bwrdd trawsbynciol, gydag arbenigwyr eiddo deallusol a dyfeisiau, academyddion, clinigwyr ac aelodau o'r diwydiant yn bresennol.

Gwahoddir pobl o wahanol gefndiroedd a sefydliadau i gyflwyno i'r panel sy'n cynghori a chyfeirio er mwyn gwneud y mwyaf o botensial y syniad neu'r cysyniad.

Mae'r rhai sydd â diddordeb angerddol mewn arloesedd yn cael eu hannog a'u cefnogi drwy roi’r amser a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith.

Ynglŷn â’r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol

Mae’r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol yn fenter greadigol sy'n ceisio sicrhau gofal iechyd gwell i gleifion a chreu cyfoeth yng Nghymru.

Mae'r cytundeb rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd yn cryfhau ymrwymiad i sicrhau gofal iechyd gwell i gleifion a hybu economi Cymru.

Ei nod yw cyflymu’r gwaith o droi arloesedd clinigol yn welliannau mewn gwasanaethau clinigol ac iechyd. Mae'r cytundeb yn seiliedig ar berthynas hirsefydlog ac yn dod â'r ddau sefydliad yn agosach at ei gilydd i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau.

Amcanion y Tîm Amlddisgyblaethol

  • bod o gymorth a chynghori a chyfeirio er mwyn gwneud y mwyaf o botensial y syniad neu'r cysyniad
  • cyfoethogi eich cysylltiadau a'ch cydweithio o fewn y Bwrdd Iechyd Prifysgol a Phrifysgol Caerdydd
  • eich hysbysu am eiddo deallusol a hawlfraint
  • hysbysu am y Gyfarwyddeb Dyfeisiau Meddygol ac ardystiad CE
  • eich cyfeirio at ffynonellau cyllid neu gyngor posibl

Cyflwyno i’r Tîm Amlddisgyblaethol

Er mwyn hwyluso hyn yn y ffordd rwyddaf bosibl, mae'n gwneud synnwyr clywed cyflwyniad byr (dim mwy na 10 munud) cyn eistedd i drafod y prosiect a sut rydych yn meddwl y gallwn ni helpu.

Dylai'r cyflwyniad amlinellu:

  • Y broblem – yn syml, y broblem glinigol yw hon a maint y broblem, sef faint o gleifion/pobl y mae'n effeithio arnynt a'r costau gofal iechyd yn fras
  • Y syniad – beth yw eich syniad a sut mae'n mynd i'r afael â'r broblem
  • Y dystiolaeth – beth sy'n cefnogi eich theori a pham y dylai weithio
  • Manteision posibl eich syniad
  • Ble rydych arni? A oes eiddo deallusol? Os felly, a ydych wedi gwneud chwiliad? A ydych wedi datblygu prototeip neu wedi sicrhau unrhyw gyllid?
  • A oes angen treial clinigol? Sut beth fyddai hwnnw?

Trefnu cyfarfod

Os hoffech drefnu cyfarfod gyda'r Tîm Amlddisgyblaethol, cysylltwch â ni.

Er mwyn i ni drefnu eich bod yn cyfarfod â’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor i chi, a fyddech cystal â nodi ym mha feysydd y mae angen cymorth arnoch.

Y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol a’r Tîm Amlddisgyblaethol (MDT)