Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu rhagnodi cymdeithasol ar gyfer iechyd

Amgylchedd 2 erw amrywiol.
Amgylchedd 2 erw amrywiol, sy'n ddelfrydol argyfer atgyfeiriadau rhagnodi gwyrdd (lluniau drwy garedigrwydd Cwm Cynon Organic Adventures Ltd.)

Mae partneriaeth a arweinir gan Brifysgol Caerdydd yn archwilio buddion 'rhagnodi cymdeithasol' gwyrdd ar iechyd, lles ac ansawdd bywyd.

Mae 'rhagnodi cymdeithasol' gwyrdd yn gweithio trwy alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i atgyfeirio pobl at weithgareddau sy'n seiliedig ar natur - fel garddio neu weithgareddau awyr agored - gan ddod â buddion meddyliol a chorfforol.

Mae tîm dan arweiniad yr Athro Les Baille, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn ymuno â Cynon Valley Organic Adventures (CVOA) - menter gymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf – i ddatblygu rhagnodi cymdeithasol ar sail llwybr natur mewn coetir pum erw hardd, gan ddarparu cyfleoedd i’r rhai sydd wedi’u hatgyfeirio gan feddygon teulu ac aelodau o'r gymuned gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur i wella eu lles personol.

Mae'r prosiect 12 mis a ariennir gan Accelerate yn cynnwys Interlink Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Clwstwr Gofal Sylfaenol De Cynon ac Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe.

Ar hyn o bryd mae CVOA yn cynnig gweithgareddau lles, dysgu achrededig sy'n chwalu rhwystrau i ddysgu, a gwaith ac ysgol haf i blant rhwng 5 a 12 oed.

Dywedodd y sylfaenydd Janis Werrett:

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd ar y prosiect hwn sy’n cael ei ddatblygu. Yn ogystal â rhoi cyfleoedd i bobl leol wella lles, bydd y prosiect hefyd yn ein helpu i ddatblygu lle cymunedol anhygoel a fydd yn ffynhonnell ddysgu ac yn fan gwyrdd hygyrch am flynyddoedd i ddod.

Mae rhagnodi cymdeithasol yn cynnwys ymyriadau anghlinigol yn y gymuned ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau iechyd, yn ogystal â gwella ymddygiadau iechyd a lles, megis rhaglenni gweithgarwch corfforol, cyngor bwyta'n iach, garddio, y celfyddydau a gwirfoddoli.

Dywedodd yr Athro Baillie:

“Mae rhagnodi gwyrdd yn amserol iawn, ond mae angen tystiolaeth wyddonol fwy cadarn i helpu’r gymdeithas i gael gwell dealltwriaeth o'r manteision y gall ei gynnig i fywydau pobl. Bydd Prifysgol Caerdydd yn penderfynu sut mae cysylltu â natur yn hybu iechyd a lles. Byddwn yn cefnogi'r gymuned trwy ddarparu arbenigedd gan grwpiau megis y prosiect Pharmabees i helpu i greu mannau hanfodol sy'n denu pryfed peillio, y byddwn yn eu cysylltu ag adnoddau addysgol.

Mae Accelerate yn cefnogi'r prosiect trwy ei gysylltu ag arbenigwyr academaidd ar draws tair Ysgol Prifysgol Caerdydd, a darparu arbenigedd ymgysylltu a rheoli prosiectau gan y Cyflymydd Arloesedd Clinigol.

Bydd y cydweithio'n galluogi asesiad o effaith rhagnodi gwyrdd ar les personol a chymdeithasol, ac yn helpu i ddatblygu llwybr natur, gan wasanaethu'r gymuned leol i hyrwyddo gwell lles a chanlyniadau iechyd hirdymor.

Mae cyfleoedd i'r Brifysgol yn cynnwys cydweithio pellach, astudiaethau achos a chyhoeddiadau a adolygir gan gymheiriaid.

Darllenwch yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Cynon Valley

Astudiaeth achos i magu, gwerthuso a hyrwyddo ymgysylltiad ag adnodd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol gwyrdd.