Ewch i’r prif gynnwys

Arbenigwyr yn dylunio ac yn adeiladu ystafelloedd llawdriniaeth cynaliadwy

Model o Ystafell Lawdriniaeth y Dyfodol. Cydnabyddiaeth: Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Model o Ystafell Lawdriniaeth y Dyfodol. Cydnabyddiaeth: Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Mae arbenigwyr gofal iechyd, academyddion a diwydiant yn cydweithio ag arbenigwyr Prifysgol Caerdydd i ddylunio ac adeiladu ystafelloedd llawdriniaeth cynaliadwy.

Nod y prosiect arloesol yw lleihau ôl troed carbon ystafelloedd llawdriniaeth, sydd fel arfer i’w gyfrif am 20-30% o ôl troed carbon ysbytai.

Cyflymu sy’n ariannu’r bartneriaeth sy’n dod â Phrifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r FroPrifysgol Cymru y Drindod Dewi SantCenin RenewablesMedtronicNuaireBIPVco ynghyd.

Mae ysbytai'r DU yn cynhyrchu dros 5 miliwn tunnell o wastraff bob blwyddyn. Nod y prosiect yw cefnogi nodau 'di-garbon' Cymru a gwella amodau amgylcheddol ar gyfer staff meddygol a chleifion gan gynnwys cysur, glendid, a lleihau traws-heintio.

Mae'r prosiect 18 mis yn dod ag arbenigwyr ynghyd gan gynnwys ymarferwyr llawdriniaethau, dylunwyr ac arbenigwyr adeiladu cynaliadwyedd.

Bydd ystafell lawdriniaeth nodweddiadol a ddatblygir gan y bartneriaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cynllun ynni isel, gwasanaethau mecanyddol effeithlon ar gyfer gwresogi, oeri, awyru a goleuo, gyda chynhyrchu ynni cynaliadwy a storio ynni yn rhan integredig o'r adeilad. Bydd hefyd yn ystyried trin gwastraff a lleihau cynhyrchu gwastraff, yn cynnwys gwastraff nwyon anaesthetig.

"Drwy gymorth Accelerate, rydym wedi gallu cymhwyso ein hymagwedd gadarnhaol at ynni, a ddatblygwyd drwy gyllid blaenorol gan WEFO i’r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel, at y math diddorol hwn o adeilad. Byddwn yn chwilio am berfformiad di-garbon ond hefyd yn ystyried agweddau eraill ar gynaliadwyedd, gan gynnwys dulliau o reoli gwastraff ac amgylchedd mewnol o ansawdd uchel."

Yr Athro Phillip Jones Cadeirydd Gwyddoniaeth Pensaernïol a Chadeirydd y Sefydliad Ymchwil Carbon isel (LCRI)

Mae’r prosiect wedi dod â staff llawdriniaethau ynghyd i ganolbwyntio ar adeiladu pensaernïol, nodweddion cynllunio ac ergonomeg, ac anaestheteg a gwastraff. Bydd swyddog prosiect penodol yn goruchwylio'r cynllunio, yr adeiladu a'r gwerthuso dilynol, gan hwyluso cyflenwi canlyniadau diriaethol.

Mae canlyniadau posibl y prosiect yn cynnwys cydweithio rhwng diwydiant, partneriaid academaidd a chlinigol yn y dyfodol; newidiadau mewn arferion clinigol a sut caiff yr ystafelloedd llawdriniaeth arloesol a chynaliadwy hyn eu hadeiladu yn y dyfodol ar draws y GIG a thu hwnt, ynghyd â hyfforddiant i staff y GIG, cyhoeddiadau academaidd ac astudiaethau achos.

Darllenwch yr astudiaeth achos a gyhoeddwyd

Dyfodol ystafelloedd llawdriniaeth cynaliadwy

Astudiaeth achos i ddylunio ac adeiladu ystafelloedd llawdriniaeth cynaliadwy.